MARGARET WILLIAMS ENOCH. DODGEVILLE, IOWA COUNTY, WISCONSIN.

Yn Dodgeville. fel aml i ardal arall drwy ein gwlad, gwnaeth angeu dori i lawr mewn llawer cartref o'n hamgylch, ac aeth a llawer o famau ieuainc.

Hefyd, er pan ysgrifenais o'r blaen i'r "Drych," bu farw Mrs. William Enoch, ar ol cystudd blin o'r cancr am ddwy flynedd. Yr oedd yn aelod o eglwys yr M. C.

Ganwyd Mrs. Enoch yn Tanygrisiau. Ffestiniog, Hydref 22ain, 1846, yn ferch i'r diweddar J. W. ac Alice Williams. Daeth i'r wlad hon gyda'i rhieni yn saith oed. ac i Dodgeville.

Yn y flwyddvn 1866, priododd a Samuel B. Williams, yr hwn fu farw yn 1880. Ganwyd dau o blant o'r undeb: Griffith a Susannah. Yn y flwyddyn 1882, ymbriododd drachefn a William Enoch, a ganwyd iddynt dri o blant; dau wedi rhagflaenu eu mam, a John Albert sydd yn cartrefu yn Montana.

Cynaliwyd gwasanaeth angladdol yn y cartref, ei gweinidog, y Parch. Gwilym E. Jones, yn gwasanaethu, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. A. H. Shoenfeld, o'r eglwys Annibynol Seisnig. Canwyd yn Gymraeg a Seisneg 'gan Proff. E. C. Davies, Miss Selina Phillips a G. E. Jones. Yr oedd Mrs. Enoch yn meddu ar gymeriad dilychwin, tawel, a ffyddlon i'r Ty a'i ordinhadau. Mae yn gadael i alaru ar ei hol: ei hanwyl briod, tri o blant, Griffith B., yn Grantos, Wisconsin; Mrs. J. E. Davy, Eau Clairs, Wisconsin; a John Albert, yn Montana; ei brodyr a'i chwiorydd, W. W. Williams, Mineral Point, Wisconsin; Mrs. W. J. Hughes, Minnesota; a Mrs. J. C. Jones, Oak Hill, Ohio. Yr oedd yr uchod i gyd yn yr angladd. Y mae angeu yn brysur yn ein mysg; bydded i ninau fod yn brysur gyda chyfleusderau bywyd.
Gan Mrs. Gwilym E. Jones.

Y Drych ~ 16eg Ionawr 1919.