CATHERINE EVANS. NANTICOKE, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.
Nanticoke, Chwefror 27th, 1918. Foreu dydd Llun, Chwefror 18fed, 1918, yn ysbyty ein tref, yn dawel gyda sicrwydd diameuol am wlad well, sef yr un nefol, bu farw o ran y corff y chwaer dawel a diymhongar Mrs. Richard Williams, 146 West Broad Street, a hi yn 62 mlwydd oed.Yn 1892, yr ymfudodd hi a'i theulu i'r wlad hon o Gwmyglo, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, gan ymsefydlu yn St. Clairs, yn swydd Schuylkill, Pennsylvania, lle y buont am fyr dymor. Yna symudasant i'r lle hwn.
Yr oedd yr ymadawedig yn un a fawr hoffid yn y cylch yma gan bob cenedl ar gyfrif ei hynawseid ysbryd a'i bywyd gwastad, yn ddoeth yn ei hymdrafodaeth a phawb. Yr oedd yn aelod ffyddlon, selog a gweithgar o eglwys Crist gyda'r M. C., a theimlir eisioes bod ei lle yn wag iawn. Profodd ei hun yn wraig ofalus, glanwaith, yn gwarchod gartref yn dda, yn fam dyner, ac yn gymydoges heddychol a charedig yr hyn a brofwyd gan y dorf alarus a pharchus a ddaeth i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion.
Cymerodd ei hangladd le y dydd Iau canlynol, pryd y gweddiwyd yn y ty gan John Shugg, Scranton. Yna cafwyd gwasanaeth yn y capel lle yr arferai addoli, ei gweinidog, y Parch., H. W. Griffiths, Plymouth, yn gwasanaethu mewn modd tyner ac effeithiol. Yr oedd y canu yn swynol a theimladwy dan arweiniad y ffyddlon D. G. Griffiths. Gadawodd i alaru ar ei hol, ei phriod adnabyddus a pharchus yn nghyd a'r plant canlynol, sef Humphrey, sydd yn awr yn gwasanaethu ei wlad fel milwr ar y mor; Evan, Richard, Owen a Mrs. Thomas R. Roberts ac Esther, yr hon sydd gartref.
Achos uniongyrchol marwolaeth Mrs. Williams oedd cancr mewnol.
Claddwyd yn mynwent y dref. Bydded yr Arglwydd yn dyner o'r perthynau yn eu trallod.