THOMAS W. EVANS. WEST PAWLET, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Heddyw, prudd i ni yw cofnodi un o'r dygwyddiadau mwyaf torcalonus yn hanes ein hardal yn ein plith fel Cymry. Cyfeirio yr ydym at farwolaeth y ddau frawd hynaws a charedig, Richard Aneurin Evans a Thomas W. Evans. Cymerwyd y ddau yn wael tra'n dylyn eu gorchwyl fel chwarelwyr yn Green Pond, mewn chwarel o eiddo Richard. Byrddiai y ddau mewn lle cyfleus ar lan y llyn wrth ymyl y chwarel, ac ymddengys i Thomas ei daro'n wael gyntaf gan y clefyd influenza, ac i Richard fyned i'r pentref i edrych am le iddo fyrddio Thomas. Wrth reswm, cafodd ddrws a gored llawen gan Mr. a Mrs. Ellis Edwards, a bu gorfod i'r ddau aros gan y cymerwyd Richard yn wael dan yr un clefyd, a throes yn pneumonia ar y ddau, a bu Richard farw brydnawn ddydd Mawrth, Hydref 8fed, a bu Thomas farw foreu ddydd Gwener.Gallwn sicrhau fod y ddau wedi cael perffaith chwareu teg gan y teulu caredig Edwards; dyna hanes y teulu led-led yr ardal. Claddwyd y ddau gyda eu gilydd brydnawn Sabboth, y 13eg, dan nawdd yr Odyddion a'r Woodmen, pryd y daeth tyrfa fawr yn nghyd i dalu y gvmwynas olaf i'r brodyr.
Gwasanaethwyd yn y ty ac wrth y bedd gan eu parchus weinidog W. O. Williams; yr archgludwyr oeddynt John R. Hughes. Griffith J. Roberts. Cadwalader J. Roberts, Edward Jones, David W. Pritchard a John Rathbone Evans.
Meibinn oeddynt i Evan a Sarah Evans. Hyfrvdle House, Talysarn. Mae iddvnt fam oedranus a chwaer yn byw yn Neheudir Cymru ar hyn o bryd. Bvdded i nawdd y nef fod gyda hwvnt yn eu profedigae+h. Profedigaeth neillduol iddi yw colli dau fab oedd anwyl iawn ganddi, a hwythau wedi bod yn neillduol o dda iddi hithau. Ganwyd Richard yn 1880 a Thomas yn 1890, felly gwelir eu bod wedi eu cvmeryd ymaith yn mlodau eu dyddiau. Yr oeddynt yn ddefnyddiol iawn mewn llawer cylch gyda'r achos da a'r ardal.
Ymfudodd Richard yma tua 12eg mlynedd yn ol a Thomas tua 10 mlynedd, ac yma y bu y ddau ag eithrio ychydig y bu Tom yn Maine ac Ilion. New York. Carem ddwevd llawer am Richard oherwydd yr oedd yn gymeriad arbenig iawn, yn hollol ar ei ben ei hun, ond gofod a ballai y tro hwn. Carem ddiolch dros y teulu i'r hen fam anwvl, Mrs. Owen W. Jones, am weinyddu'n ffyddlon iddynt gyda Mary J. Edwards ac Ellis.
Pan yn ceisio ysgriblo yr ychydig hyn daeth y newvdd prudd i'r pentref am farwolaeth William Sam Jones, mab eich gohebydd ffyddlon, Lewis Jones (Gwlithyn), yn Ilion, New York. Fe gewch y manylion am y tri, mae'n debvg, gan Gwlithvn, a dichon y bydd gan Coetmor lawer i'w ddweyd am Aneurin. Yn absenoldeb Gwlithyn a'i brofedigaeth, yr ymgvmerais a hyn o waith.
Llifonwr.