WILLIAM FRANCIS. FAIR HAVEN, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Ionawr 19eg. 1918. Y mae genyf y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth un o'n hardalwyr mwyaf adnabyddus a pharchus, sef William Francis, yr hyn gymerodd le Ionawr lleg, o'r afiechyd blin, y pneumonia, ar ol chwe diwrnod o gystudd.Ganwyd yr ymadawedig yn Aberllyfeni, Corris, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1838.
Ymbriododd gyda Jane, merch Morris Roberts, Hafod Fawr, Ffestiniog, 54 mlynedd yn ol yn mhlwyf Ffestiniog.
Daethant drosodd i'r Unol Dalaethau yn y flwyddyn 1873, gan sefydlu yn Fair Haven, Vermont. Bu yn orchwyliwr ar amryw o'r chwarelau yn Vermont. Bu y teulu yn ymdrechgar a llwyddianus fel ag i gyraedd amgylchiadau tra chysurus.
Ganwyd iddynt deulu lluosog, tri mab a chwech o ferched, yr oll yn bresenol yn yr angladd, ac y maent gyda eu mam mewn dwfn alar ar ol priod a thad hoff a charedig. sef Francis W. Francis, William Francis, a Mrs. Griffith Jones yn Utica; Mrs. W. Thomas, Mrs. Evan Jones a Miss Edith Francis yn New York; Morris Francis, Mrs. Elizabeth Williams a Mrs. Harry B. Lewis yn Fair Haven. Vermont.
Yr oedd y blodeudorchau a rhosynau, ac amrywiol flodeu wedi eu pentyru nes gorchuddio yr arch. Cymerodd yr angladd le ddydd Sul, Ion. 13eg, y Parch. J. D. Owen, gweinidog yr eglwys lle yr oedd y teulu yn aelodau, yn gwasanaethu yn y ty ac ar lan y bedd yn Gymraeg. Canwyd yr hen emynau adnabyddus, "Mae nghyfeillion adre'n myned," "Cawn gwrdd tu draw i'r afon." yn y gwasanaeth, a "Bydd myrdd o ryfeddodau" ar lan y bedd.
Daearwyd yn mynwent brydferth Cedar Grove. Heddwch i'w lwch.