CAPT. RICHARD J. GRIFFITH. RACINE, WISCONSIN.

Foreu Mawrth, Rhagfyr 10fed, 1918, bu farw y Cymro a'r dinesydd adnabyddus, Capt. Richard J. Griffith, 935 10th Street.

Bu yn gyfyngedig i'w gartref am rai misoedd o herwydd y ddamwain a gyfarfyddodd tra wrth ei orchwyl o wylied un o bontydd y ddinas. Cafodd ei daro gan yr heolgerbyd, a bu i effeithiau hyny fod yn achlysur ei farwolaeth.

Ganwyd Capt. Griffith yn Llanelltyd, yn agos i Dolgellau, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, Rhagfyr 30ain, 1842, a phan tua pedair-ar-ddeg oed aeth i'r mor gyda'i dad, a bu yn hwylio ar hyd glanau Meirionydd am amryw flynyddau.

Yn Hydref, 1865, cawn iddo ymbriodi gyda Miss Ann Pugh, a chymerodd yr amgylchiad dedwydd le yn hen eglwys henafol Llanelltyd.

Yn Mawrth, 1869, daethant drosodd i'r wlad hon, gan ddyfod yn uniongyrchol i Racine, lle y treuliodd y gweddill o'i oes. Yr oedd y ddinas hon yn enwog am ei chapteniaid a'i morwyr yr adeg hono, ac yr oedd yma amryw o honynt yn Gymry, ac yn ddynion o ymddiriedaeth, ond erbyn hyn y maent wedi cefnu ar y byd hwn; nid oes ond un eto yn aros. Bu Capt. Griffith allan ar y llynoedd hyn am y cyfnod maith o 38 mlynedd, ac ystyrid ef yn forwr hynod o ofalus.

Tua 10 mlynedd yn ol, rhoddodd ei alwedigaeth i fyny, a chafodd le gan y ddinas i wylied un o'r pontydd. Perthynai i amryw gymdeithasau, ac ystyrid ef yn ddinesydd gonest a chywir; ac yr oedd yn adnabyddus i gylch eang, ac iddo le cynes yn eu serchiadau o herwydd ei galon haelionus a'i natur dda.

Tua pedair blynedd yn ol, dathlodd Capt. a Mrs. Griffith eu priodas euraidd, a chawsant amser dedwydd a dymuniadau goreu eu cyfeillion. Bu iddynt yrfa dawel a heddychol, a ganwyd iddynt bedwar o blant, sef Miss Annie J. Griffith, Mrs. R. R. Jones, John R. Griffith a Robert Griffith, pa rai ydynt wedi eu gadael gyda'u mam i alaru ar ol tad tirion a gofalus.

Cymerodd ei gladdedigaeth le brydnawn dydd Gwener, Rhagfyr 13eg, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Joseph Roberts, D. D., a John E, Jones, So. Side, Chicago. Yr oedd y gwasanaeth wrth y bedd o dan ofal yr Odyddion, o'r hon urdd yr oedd yn aelod. Caffed y teulu oll nerth i ymgynal o dan y brofedigaeth.
Gan R. D. Evans

Y Drych ~ Ionawr 9fed, 1919.