ROBERT GRIFFITH. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yn un o ysbytai y ddinas, nos Wener diweddaf, bu farw y Cymro cywir Robert Griffith, 1517 Dudley Avenue. Yr oedd y brawd anwyl hwn wedi derbyn ei ran o dreialon a gofidiau bywyd. Am dros 16 mlynedd yr oedd wedi colli ei olwg, ac yn ddiweddar cafodd ergyd o'r parlys a'i hanalluogodd i symud, ond er hyn oll nodweddid ef ag ysbryd llawen ac amyneddgar.Brodor o Sarn, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru ydoedd, a buasai yn 63 mlwydd oed pe wedi byw hyd y mis nesaf. Daeth i'r wlad hon oddeutu 30 mlynedd yn ol, ac wedi treulio oddeutu chwech neu saith mlynedd yn Rome symudodd i Utica, lle y treuliodd y gweddill o'i ddyddiau. Bu ei briod farw oddeutu bum mlynedd yn ol. Saer ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac yr oedd yn aelod o Undeb y Seiri. Yr oedd hefyd yn aelod o eglwys Bethesda.
Heblaw ei ferch, Mrs. Ithel B. Daniels, gyda'r hon y cartrefai, gedy ddau fab, Edward T. Griffith, ar hvn o bryd yn Ffrainc; William Lloyd Griffith yn Nghymru. a dau frawd ac un chwaer yn Nghymru.