JANE GRIFFITHS. GRANVILLE, NEW YORK.
Granville, New York. Rhagfyr lleg, 1918, bu farw yr hen chwaer anwyl Mrs. Jane Griffiths. Quaker Street, wedi cyraedd o'r bron ei 80ain mlwydd oed.Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o Garn Dolbenoiaen, Gogledd Cymru. Ymbriododd a Mr. Evan Griffiths o Bethesda, Arfon. Gwahanwyd hi a'i phriod oddeutu 6 blynedd wedi eu hymrwymiad priodasol, trwy ei farwolaeth, gan ei gadael yn weddw gyda mab, John, yr hwn trwy gymorth ei briod a gymerodd ofal teilwng o honi am 33ain o flynyddau.
Oddeutu 13 blynedd ar ddeg yn ol, penderfynodd y mab ymfudo am y Talaethau, gan drefnu i ddod a'i fam oedranus gydag ef.
Ceisiwn dynu darlun o'r ymadawedig ar dudalenau y "Drych." Gellid dweyd ei bod yn hen chwaer syml a gonest, yn cynrychioli yn helaethiawn y gwir gymeriad Cymreig. Nid yn unig yr oedd yn cario nodweddion ei chenedl; yr oedd hefvd yn cario nodweddion v cymeriad Cristionogol yn ei amrywiol arweddau. Nid oedd ei manteision addysgol wedi bod yn beth cyfleus iddi yn ei chylchyniadau boreuol. Ond, er na chyffyrddodd addysg elfenol a galluoedd cynenid ei natur fel ag i'w gwobrwyo a diwylliant uchel, eto gellid credu gyda graddau helaeth o sicrwvdd fod ei synwyr moesol wedi oi gyfarwvddo yn foreu iawn, fel ag i arwain ei holl ysgogiadau at y pur a'r da.
Bu yn aelod ffyddlawn o eglwys Jerusalem er pan y daeth yma o Gymru. Er mewn henaint a llesgedd. ymlwybrodd i'r Cysegr yn ngofal ei hwyres fach hyd y gallodd. Wedi myned yn hollol fethiant byddai yn wastad a'i dymuniadau yn canoli mewn hiraeth dwys yn ei chornel syml dymunai weled y byd yn dod at Grist, ac i gydnabod Ei awdnrdod, ac i ymostwng i'w ewyllys.
Erbyn hyn mae wedi gadael yr anial gyda sicrwydd tystiolaeth o'i hol. Cymerodd yr angladd le ddydd Sadwrn. Rhagfyr 14eg. Cynaliwvd yr oll o'r gwasanaeth yn y cartref.
Gwasanaethwyd gan Dr. Richard Powell, Rendham. Pa., yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. John W. Morris. Poultney. Yr oedd y gwasanaeth yn effeithiol drwvddo; yn cynwys cysur yr Efengyl i'r galarwyr a chenadwri ddifrifol i'r gwyddfoddolwyr. Bydded i'r Arglwydd fod yn dyner o'r teulu trallodus, a rhoddi iddynt deimlo yn sylweddol o'i bresenoldeb dyddanus yn eu trallod a'u hunigrwvdd.
Yr arch-gludwyr oeddynt: Owen Jones. Poultney; Thomas Rowlands. Granville; Morris R. Roberts Rees G. Williams, John Hughes. David O. Jones.
D. O. Jones.