HUGH HUGHES. SAN DIEGO CALIFORNIA.

Ionawr 6, 1919.
Gorchwyl annymunol a osodwyd arnom ydyw hysbysu am farwolaeth sydyn ac annysgwyliadwy y cyfaill, Hugh Hughes, yr hyn a gymerodd le am haner awr wedi pedwar o'r gloch, foreu Sabboth, Rhagfyr 28ain, 1918. Cyfarfyddodd ein cyfaill a damwain trwy syrthio o'r drydedd loft lle yr oedd yn cartrefu. Pan yn eistedd ar waelod y ffenestr, collodd ei gydbwysedd, a syrthiodd i'r palmant islaw, a derbyniodd niweidiau mewnol a drodd yn angeu iddo er pob gofal meddygol.

Cymerodd yr angladd le ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn hon, o dan ofal y Davis Undertaking Company. Daeth y Cymry at eu gilydd yn ffyddlon i dalu y gymwynas olaf i'r hyn oedd farwol o hono. Gweinyddwyd ar yr aclysur gan yr ysgrifenydd, yn Gymraeg a Saesoneg. Ganwyd ein cyfaill yn Bryngryn, Llanrug, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Mab ydoedd i Ellis ac Elizabeth Hughes. Symudodd y teulu i Stockport, Lloegr, tua'r flwyddyn 1890. Saer oedd wrth ei alwedigaeth. Dysgodd ei grefft gyda'i ewythr, Mr. Richard H. Rogers, adeiladydd adnabyddus iawn yn nghylchoedd Stockport a Manchester. Bu ein brawd yn ffyddlawn gyda'r canu, ac fel organydd yr eglwys Gymreig yn Stockport; a bu felly gyda ninau y Cymry yn San Diego.

Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1910, a daeth ar ei union i San Diego, California, at ei frawd-yn-nghyfraith, Mr. Griffith Jones, yr hwn sydd yn dylyn yr un alwedigaeth.

Y mae yn gadael i alaru ar ei ol, ei anwyl fam, yr hon sydd weddw yn Stockport, Lloegr. Yr oedd ganddo feddwl mawr o'i fam, a phob amser yn siarad yn barchus o honi. Hefyd, dair chwaer: Lizzie a Jane Hughes, yn yr Hen Wlad, a Mrs. Catherine Jones, yn San Diego, California. Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon a fyddo yn dyner o honynt, ac a roddo nerth iddynt i ddal y brofedigaeth chwerw hon.
H. R. Williams.

Y Drych ~ 23ain Ionawr 1919.