DAVID WALTER DAVIES. HANOVER, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.

Bu y Cymro adnabyddus, sef David Walter Davies, farw o ergyd o'r parlys, Hydref 24ain, yn 72 mlwydd oed. Bu farw yn Wilkes-Barre yn nhy ei hen gyfaill, Griffith Williams, yr hwn a fu yn ofalus iawn ohono yn ei saldra diweddaf, a gwnaeth bob peth trosto oedd yn bosibl, ond yr oedd y saeth wedi ei daraw mor drwm nad oedd gobaith gwellhad iddo. Claddwyd ei weddillion yn Wilkes-Barre.

Mab ydoedd yr ymadawedig i Walter a Jane Davies, masnachwr yn Blaenau Ffestiniog, a daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1889 o Ffestiniog, gan ymsefydlu yn New York. Bu ar Wards Island fel gofalydd o'r bobl oedd wedi colli eu synwyrau, a bu yn ffortunus iawn yn ei waith am flynyddoedd. Bu fel gofalydd am ddwy flynedd ar bymtheg yn y Deaf and Dumb Institute, ac yr oedd wedi dysgu siarad a'r rhai oedd tan ei ofal, ac yr oedd yn barchus iawn gan bawb.

Tua blwyddyn a haner yn ol ymddiswyddodd o herwydd ei iechyd, ac mewn ysbaid aeth i Wilkes-Barre. Yr oeddwn yn reit adnabyddus ag ef. Yr oedd yn ddyn dyddorol iawn i fod yn ei gwmni a gwrandaw arno yn dweyd hanesion pethau oedd wedi bod dan ei sylw yn gofalu am y rhai anffortunus o dan ei ofal. Yr oedd yn ddyn uniawn ei ffordd ym mhob ystyr. Cofus genyf glywed ffrind yn gofyn iddo, "Wel Mr. Davies, yr ydych yn edrych yn dda iawn; sut yr ydych yn esbonio eich bod yn edrych mor dda?" "Wel," meddai, "wedi bod yn dda wrth fy nhad a mam ydwyf, ac yn wir, yr oedd wedi bod yn dda wrth bawb a ddaeth i gyffyrddiad ag ef.
Heddwch i'w lwch.
Efrogydd.

Y Drych ~ Tachwedd 14eg, 1918.


KATHERINE OLWEN HUGHES. BUTTE, SILVER BOW, MONTANA.

Yn gynar foreu Mercher, Hydref 23ain, brawychwyd Cymry y ddinas hon gan y newydd trist ac annysgwyliadwy fod y chwaer garedig, Mrs. Katherine Olwen Jones, anwyl briod D. W. Jones, 124 E. Aluminum Street, wedi cefnu ar y bywyd presenol, yn 37ain mlwydd oed. Ni ddychmygais y buasai y gorchwyl pruddaidd o hysbysu darllenwyr y "Drych" am farwolaeth Mrs. Jones yn disgyn i'm rhan, gan ei bod bob amser yn llawn o egni, nerth a bywyd, ac mewn canlyniad yr oedd ei marwolaeth ddisymwyth wedi ychydig ddyddiau o gystudd bron yn anmhosibl i'w sylweddoli. Llanwyd calonau ei lluaws gyfeillion a chydnabyddion a thristwch a galar, a threiglai dagrau i lawr grudd yr oll a'i hadwaenai.

Ni wyddai ond nifer bychan am ei gwaeledd, ac ni thybiai neb fod angeu wedi cydio ynddi. Dair wythnos cyn ei marwolaeth, aeth i Salt Lake City i angladd cyfnither iddi, sef Mrs. Howard Bruner, a thra yno cafodd anwyd trwm; cychwynodd adref yn ddiatreg, ac wythnos yn ddiweddarach ehedodd ei henaid gwerthfawr i'w dragwyddol gartref.

Merch ydoedd yr ymadawedig i John a Margaret Hughes, Oerddwr, Beddgelert, Gogledd Cymru, a nith i'r bardd-bregethwr adnabyddus, y Parch. R. R. Morris, gweinidog y Tabernacl, Blaenau Ffestiniog.

Ymfudodd hi a'i phriod i'r wlad hon ddeuddeg mlynedd yn ol gan ymsefydlu yn y ddinas hon. Gedy i alaru ar ei hol briod ac un mab, Emrys; ei rhieni. dwy chwaer a phedwar brawd yn Nghymru; modryb, sef Mrs. R. R. Jones, 39 West Iron Street, Butte, ac amryw berthynasau eraill yn Nghymru a'r wlad hon. Yr oedd yn un o'r gwragedd mwyaf caredig a chymwynasgar, ac yr oedd yn feddianol ar galon fawr yn llawn, tosturi a thynerwch; ac un o'i nodweddion amlycaf ydoedd parodrwydd digyffelyb i gynorthwyo gyda phob achos da, ac ni roddai unrhyw ystyriaeth iddi ei hunan, ond rhedai yn wastadol i helpu'r adfydus, bydded estroniaid neu gyfeillion. Ymwelai a'r claf, gofalai am er theulu, ac er ei holl ofalon byddai yn bresenol yn mhob cwrdd yn y capel Cymreig. Gwasanaethodd fel un o'r organyddion am amryw flwyddi, a hi ydoedd llywyddes Cymdeithas Gynorthwyol y Merched er's dwy flynedd, ac yr oedd yn flaenllaw gydag achos y Gwaredwr mewn llawer cylch.

Gellid dibynu y byddai yn sicr o wneyd ei rhan bob amser. a hyny heb rwgnach. Yr oedd yn hynod frwdfrydig dros bethau crefyddol a dyrchafedig, ac ni ddyffygiai yn gwneuthur daioni. Yr oedd hefyd yn ddidderbynwyneb bob amser, ac ni phetrusai ddadgan ei barn, a byddai hyny yn peri tramgwydd i rai.

Bydd colled ar ei hol mewn amryw gylchoedd, ac anhawdd fydd cael neb i lanw'r bwlch. Collodd cymdeithas un barod i'w gwasanaethu; collodd cyfeillion a pherthynasau un a hoffid yn fawr; collodd yr aelwyd fam ofalus a thyner, a phriod hawddgar, a chollodd Seion Duw un o'r chwiorydd ffyddlonaf yn anterth ei nerth a'i defnyddioldeb. Gellir dweyd yn ddibetrus "Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth."

Dengys y dyfyniad canlynol o ysgrif ymddangosodd yn un o'r papyrau lleol gan May Searles Johnston, y syniadau uchel coleddid am dani y tu allan i'r cylch Cymreig: "One of God's noble women passed to her reward when Katherine Olwen Jones closed her eyes in the last sleep on October 23rd, after a splendid life of kindness and usefulness. Mrs. Jones was noted for her extreme kindness and wonderful usefulness; was always ready to respond to a call whenever she was needed. Active in Red Cross work she will be missed there. Also she was untiring in every way when she could alleviate suffering and lend comfort. Public sentiment is, 'She died working for others.

O herwydd yr haint marwol sydd wedi talu ymweliad a'r wlad ni chaniateir angladdau cyhoeddus, ac mewn canlyniad annghyhoeddus ydoedd yr angladd, yr hyn gymerodd le Hydref y 25ain; er hyny daeth nifer mawr o'u cartrefi i'r fynwent i dalu'r gymwynas olaf iddi. Gwasnnaethwyd yn y ty gan y Parch. J. C. Hughes, gweinidog yr eglwys Gymreig, ac ar lan y bedd gan swyddogion Ruth Chapter. Order of the Eastern Star, a chanwyd dau emyn Cymraeg dan arweinyddiaeth y brawd J. M. Jones. Gorchuddid yr arch a blodau amryliw, yr hyn oedd yn arwydd o barch diffuant ei lluaws cyfeillion. Derbynied y priod a'r teulu a'i pherthynasau gydymdeimlad puraf y Cymry yn awr y brofedigaeth lem.
T. Eilian Williams.

Y Drych ~ Tachwedd 21ain, 1918.