MARGARET OWEN. EAST ELMHURST, LONG ISLAND, NEW YORK.
Priodol fyddai crybwylliad byr o chwaer o'r ddinas hon a fu farw yn ddiweddar. Anogir ni i gofio cymeriadau Cymreig yn y "Drych," a mwynhad ydyw darllen coffa am danynt.Ar gais y teulu, ceisiaf daflu ychydig "gangau o wydd" ar y ffordd o barch i un anwyl a hoffus iawn gan bobl yr Arglwydd, sef y diweddar Mrs. Margaret Owen, priod William Owen, East Elmhurst, Long Island, New York, gynt o 256 West 12th Street, New York. Hunodd, Hydref 30ain, 1918, yn nhy ei merch ieuengaf yn Bogota, New Jersey, a chladdwyd ei gweddillion yn mynwent Hackensack, New Jersey. Gweinyddwyd yn ei hangladd gan y Parch. D. Morgan Richards, gweinidog.
Ganwyd Mrs. Owen yn y Gatehouse, gerllaw Bangor, Gogledd Cymru, a gadawodd gartref yn bur ieuanc, tua 15 oed, am ddinas Lerpwl, lle y bu o dan ofal ei hewythr, Humphrey Jones.
Yn 1876, ymbriododd a William Owen, Lerpwl, a phriodwyd gan Dr. Owen Thomas yn eglwys Princess Road, Lerpwl.
Ganwyd iddynt wyth o blant; bu farw un, ond y mae chwech yn fyw yn y wlad hon, ac un yn Wallesey, Sir Gaer, Prydain.
Ymfudodd y teulu i'r wlad hon yn 1888. Ar ol byw, yma tua deng mlynedd, aethant yn ol i'r Hen Wlad, a buont yn byw yn Seacombe, Sir Gaer, am bymtheg mlynedd, a daethant eto yn ol i'r wlad hon, ac yma y treuliodd Mrs. Owen weddill ei hoes. Yr oedd yr ymadawedig yn ddarlun cywir o wir Gymraes, mewn dull, diwyg ac iaith, ac yn hollol naturiol a chywir yn ei nodweddion Cymreigaidd oedd yn taro pob Cymro ddeuai i gyffyrddiad a hi. Gellir yn hawdd gymwyso yr adnod hono at fywyd ac ymarweddiad ein hanwyl chwaer: "Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth." Ni wyddai beth oedd bod yn segur mewn byd ac eglwys. Yr oedd Mrs. Owen wedi enill lle cynes yn yr eglwys Gymreig, ac yr oedd hithau a meddwl mawr o bob cymdeithas yn yr eglwys. Yr oedd hefyd yn hynod o ffyddlawn; nid oedd yn bosibl iddi roddi ei phresenoldeb mor fynych ag y dymunai o herwydd ei symudiad i'r wlad, ond carai bregeth ac emyn Gymreig.
Ond y mae yn sicr mai yn ei chartref yr oedd ei gwir fawredd, fel priod a mam. Llanwodd y lle cysegredig hwn hyd yr ymylon, ac aberthwyd llawer er cysur a dyogelwch ei phlant a'i phriod. Yr oedd yn nodedig am ei charedigrwydd, a gwnai bob peth oedd yn ei gallu i leddfu poenau ac angen ei chy- mydogion. Tystiai dydd ei hangladd i wirionedd y ffaith hon. Chwith genym ei bod yn y bedd. Duw fyddo yn nodded i'w phriod a'i phlant yn eu galar.
Gan Colwynian.