MATHIAS HUGHES. LIME SPRINGS, HOWARD COUNTY, IOWA.

Ganwyd y diweddar Mathias Hughes, mis Awst, 1840, yn Llanfairfechan, Gogledd Cymru.

Yn 1865, ymunodd mewn priodas a Miss Catherine Jones o'r un ardal, a'r flwyddyn ganlynol, daethant i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn ninas Chicago, lle y treuliasant saith mlynedd. Daeth o Chicago i Lime Springs, Iowa, gan ddylyn ei alwedigaeth fel amaethwr.

Gorphenaf 4ydd, 1891, collodd ei anwyl briod; cafodd ei adael gyda chwech o blant. Yr oedd hon yn golled fawr i'n hanwyl frawd, gan i'w briod gael ei chymeryd ymaith cyn fod y plant wedi gorphen eu magu; ond er ei ddirfawr golled, parhaodd i gadw cartref hyd 1914, pan y gwerthodd ei fferm ac y symudodd yntau i wneyd ei gartref gyda'i fab, John M. Hughes, gerllaw Chester. Yn 1916, symudodd i gartrefu gyda'i ferch, Mrs. Ewen Isackson, ac yno y gwnaeth ei gartref hyd ddydd ei farwolaeth, yr hyn gymerodd le, Hydref 11, 1918. Cafodd gystudd maith a phoenus, ond dyoddefodd gydag ymostyngiad llwyr i ewyllys ei Arglwydd.

Ymunodd a'r eglwys pan yn ieuanc, a pharhaodd yn ffyddlawn hyd derfyn yr yrfa. Diwyd a dystaw fu yn ei fywyd, siriol ac addfwyn yn ei glefyd, a hyderus a thawel yn ei angeu. Diau iddo gael mynediad helaeth i lawenydd ei Arglwydd.

Cymerodd y claddedigaeth le brydnawn Sabboth canlynol, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. Wm. E. Caldwell, yn absenoldeb y Parch. David Edwards. Cafodd gladdedigaeth parchus, a theilwng ydoedd o'r cyfryw ar gyfrif ei flynyddau o breswylio yn y cylch, a'i ragoriaethau fel dinesydd.

Gadawa mewn galar, bedwar o blant, sef Hugh S. Hughes, Cloverton, Minnesota; John M. Hughes, Chester, Iowa; y Parch. W. S. Hughes, Cleghorn, Iowa; Mrs. Ewen Isackson, Lime Springs; ac amryw o berthynasau eraill. Bydded iddynt gael gwybod am gysuron yr Efengyl yn eu galar a'u hiraeth ar ol un oedd mor anwyl ganddynt.
Gan y Parch. David Edwards.

Y Drych Ebrill 17eg, 1919.