RICHARD R. HUGHES. COLMA, SAN MATEO COUNTY, CALIFORNIA.

Bydd darllen y gair diweddar yn gysylltiol ag enw y gwr ieuanc gyda'r gair coffa hwn yn syndod ac yn fraw i lu o'i gydnabyddion. Ond rhaid ydyw cofnodi y ffaith alarus am ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yr 8fed o Chwefror, 1918, yn San Francisco wedi ond dwy wythnos o afiechyd, sef y pneumonia.

Mae ei farwolaeth wedi peri tristwch a galar yn y cylch ag y troai ynddo, a dyfnheir hyny yn ychwanegol gan y ffaith nad oedd yn briod ond ysbaid o chwech wythnos, gan iddo oddeutu'r Nadolig yn Los Angeles, California, ymuno mewn glan briodas a Miss Catherine Watkins (gynt o Utica).

Mab ydoedd yr ymadawedig i Robert a Sydney Hughes, Rhwngyllwyni, Penygroes, a ganwyd ef 30 mlynedd yn ol i Awst diweddaf. Ymfudodd i'r wlad hon oddeutu 11 mlynedd yn ol, gan sefydlu i ddechreu yn West Pawlet, ac yn ddiweddarach daeth i Utica a'r cylch, a bu yn aros hefyd yn Cleveland, Ohio, a sefydlialau Cymreig eraill, ac yr oedd ei rodiad a'i ymarweddiad yn gywir a dilychwin. Meddai ar lais swynol, a gwnaeth wasanaeth da ynglyn a cherddoriaeth yn y gwahanol gylchoedd y bu ynddynt.

Bydd yn chwith ar ol y bachgen ieuanc caredig, calon gynes a pharchus. Cymerodd ei angladd le o'r capel Cymreig yn San Francisco, ac yn mhlith y pentwr o flodau ar ei arch yr oedd blodeudorchau o eglwys y Cymry yn Los Angeles, ac o eglwysi Oakland a San Francisco. Yr oedd y gwasanaeth drwyddo yn un hynod o deimladwy, canwyd unawdau pwrpasol i'r amgylchiad gan gyfeillion yno, a gwnaed sylwadau teimladwy gan y gweinidog. Daearwyd ei weddillion yn mynwent San Mateo, pum milldir o gapel Cymraeg San Francisco.

Mae yn aros i alaru ar ol y cyfaill hynaws, ei briod ieuanc; ei dad, Robert Hughes, a brawd a chwaer, Edward ac Annie yn Nghymru; chwaer yn Pasadena. Yr oedd hefyd yn nai i Mrs. John T. Jones, 1573 Seymour Avenue, Utica; Mrs. John R. Hughes, Granville; Owen J. Roberts, West Pawlet, ac i'r diweddar Mrs. Robert J. Roberts (Boss), West Pawlet, a Hugh J. Roberts, San Francisco, California, a pherthynasau eraill yn yr Hen Wlad.

Y Drych ~ Chwefror 27ain, 1918.