RICHARD HUGHES. SILVERTON. SAN JUAN COUNTY, COLORADO.

Yr Haint - Marwolaethau Cymreig.
Parhau i wneuthur difrod mawr ar fywydau y mae yr haint yn y ddinas hon, ac yn ol yr hyn gyhoeddwyd gan Bwrdd Iechyd bu farw oddeutu chwe chant yn ystod y ddau fis diweddaf, ac yn eu plith amryw o'n cyd-genedl. Ychydig amser yn ol, derbyniodd y cyfail W. R. Hughes o'r ddinas hon, y newydd trist am farwolaeth ei frawd, Richart yn Silverton, Colorado, yn 38 mlwydd oed.

Genedigol oedd o Clynnog, Arfon, Gogledd Cymru, a mab i Mary Hughes a'i diweddar briod, Richard Hughes, Berth Ddu Bach. Bu yn Silverton am bymtheg, mlynedd, ac yr oedd yn dra adnabyddus yn y dref a'r cylch. Adeg ei farwolaeth yr oedd yn foreman ar yr Iowa Tiger Mines, tua naw milldir o Silverton.

Yr oedd yn gymeriad tawel, ac yn un a hoffid yn fawr gan yr oll a'i hadwaenai. Dilys y bydd y brofedigaeth yn drom i'r teulu ac hefyd i'w gyfeillion.

Yr oedd ei gladdedigaeth dan nawdd y Fraternal Order of Eagles o ba gymdeithas yr oedd yr ymadawedig yn aelod. Gedy fam, chwaer a dau frawd yn Nghymru, a dau frawd yn y wlad hon sef John yn Globe, Arizona a William yn y ddinas hon.
Gan T. Eilian Williams.

Y Drych ~ Rhagfyr 19eg, 1918.