REV. JOHN HUGHES PARRY, UTICA NEW YORK.
Rev. John Hughes Parry . It is with deep sorrow that we learn of the early death of our beloved brother, the able and beloved pastor of Moriah Church, Utica, New York.In his death the Christian Endeavor movement loses one of its best friends and most earnest supporters. Mr. Parry was born September 9, 1844, at Fron heulog, Dinorwic, North Wales, a son of Ann and Henry Parry - a faithful deacon with the Calvinistic Methodists at that place for fifty - two years. He was educated at the Normal School, Bangor, and became an able teacher for some years.
After preaching as a licentiate for some years, in 1873 he was installed pastor of the Welsh church at Crewe. After four years he became pastor of an English church at Trallwm for three years. He was then called to the pastorate of an English church at Oswestry, where he labored for eight years. His next field was a Welsh chorch at Holyhead, Anglesey, where he ministered until he took charge of Morial Church about five years ago.
He had been suffering more or less from catarrh of the bowels, and was advised by his physicians to fast for seven weeks. But the ordeal was too much for his strength, and he succumbed, - after rallying enough to visit his cousin in Vermont, dying Tuesday, August 8, 1899, while near his fifty-fifth birthday, leaving to mourn after him wife and three children, two brothers and one sister, together with a large host of sincere friends.
Memorial services were held at Poultney, Vermont, and then in his church at Utica, from which place he was taken to his earthly rest. The manifestations of respect and sympathy were very marked in every way. The other churches and societies of Utica and representatives from abroad joined with those of Moriah in the obsequies.
It was in June, 1893, at the Racine Synod, that we first met and heard Mr. Parry. He was in the same place, at the Christian Endeavor convention, Christmas, 1897. His sermons, manner, and spirit at both visits to Wisconsin made for him hundreds of friends among the most serious people. We shall all miss him greatly; and we extend our deepest sympathy to his beloved wife, his children, and his church.
Y Lamp ~ Medi 1899.
THOMAS R. HUGHES. BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.
Thomas R. Hughes, aged forty-eight years, died Wednesday morning of cancer at the home of William B. Ellis, of Bangor.He was a slater by trade and came to this country from Wales, about twenty-nine years ago. The deceased was unmarried.
He is survived by three brothers and two sisters. All reside in Wales, but one brother, Richard Hughes, of Bangor.
He was a member of the Foresters, Masons, True Ivorites, Odd Fellows and the Welsh Presbyterian Church, of Bangor.
Funeral services will be held at 2 o'clock Saturday afternoon.
Th e Morning Call ~ Allentown Pennsylvania ~ May 24th, 1918.
THOMAS R. HUGHES. BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.
Yr wyf yn sicr na warafuna neb a wir adwaenai Thomas R. Hughes le i air o goffhad am dano ymddangos ar ddalenau y "Drych." Hefyd, teimlaf mai anrhydedd osodwyd arnaf finau pan ofynwyd i mi ysgrifenu ychydig linellau.Brodor ydoedd yr ymadawedig o Ceunant, Llanrug. Enwau ei rieni oedd Richard a Mary Hughes, Tai Isa'r Ceunant. Ganwyd Thomas yn y flwyddyn 1870. a bu farw yn Bangor, Pennsylvania, pan yn 48 mlwydd oed. Ymfudodd i'r America yn y flwyddyn 1892, gan ymsefydlu yn nhalaeth Vermont. Pan oddiweddwyd i ef gan ei elyn marwol symudodd i Pennsylvania, a chyn y diwedd daeth aros dan gysgod to clyd lle preswylia ei frawd Richard (Ceunentydd) a'i briod dyner a medrus. Yno cafodd gydymdeimlad a charedigrwydd wedi cyd-blethu a medrusrwydd tu hwnt i ddesgrifiad, yn nghyd a gofal meddygol goreu posibl. Ond er y cyfan angeu a orfu.
Bu farw ar yr 22ain o Fai, 1918, wedi dyoddef o hono ddwy flynedd o gystudd blin. Cludwyd ei gorff a daearwyd ef yn naear mynwent Bangor, Pennsylvania, ar y 25ain. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parch. John Williams (W.) ac Abram Jones, Plainfield, New York. Gadawodd o'i ol ei ddwy chwaer yn Nghymru, a dau frawd, yn nghyd a'i frawd. Richard (Ceunentydd), Bangor, Pennsylvania.
Cydrhwng y blynyddoedd 1870 a 1918 y treuliodd Thomas ei holl hanes ar y ddaear, a phlygodd Rhagluniaeth ei oes fel y plyga yr ysgrifenydd ei lythyr yn bedwar plyg cyn ei roi o'r golwg yn yr amlen, a hyny yn y fath fodd fel nas gall yr un seniadur (censor) ei agoryd. Yr wyth mlynedd cyntaf gyda'i dad a'i fam, gan chwareu a chyd-ddysgu a phlant y Ceunant; y pedair ar ddeg nesaf ar aelwyd Prysgol yn nghwmni yr anfarwol William Owen, yn swn seiniau Pen Calfaria; a phedair ar hugain yn Vermont lle'r oedd ei aelodaeth eglwysig yn fyw pan oedd efe yn marw, a'r ddwy flynedd olaf yn Pennsylvania yn oddefydd i ddyoddefiadau angeu ddatod ei gysylltiadau a'r ddaear.
Cwrddais ag ef amryw weithiau yn ystod ei afiechyd, a phob tro y cwrddasom llithrai ein siarad at ei afiechyd, ac oddiwrth hyny at bethau crefyddol, a'r hyn argraffai yn wastad ar ein meddwl fyddai ei fod yn ddyn cywir a gonest iawn ei ymadroddion, "Fel y meddyliai yn ei galon, felly y llefarai efe," heb na geiriau llanw, na gwag ymadroddion. Yr oedd yn unplyg a dirodres ei ddull, yn hawdd i'w adnabod, ac yn llawn caredigrwydd. Bellach, nid oes genym ond dymuno i'w lwch heddwch hyd foreu yr aduniad diddatod, a dweyd:
Os yn y pridd yn awr gorweddi
Tu draw i'r bedd cei eto godi.
Dymunir ar i bapyrau Cymru godi'r uchod.
Gan John W. Griffiths.