WILLIAM H. HUGHES. POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Dinesydd Da, yn boblogaidd yn y fasnach Lechau.
Gweithiwr Gonest mewn Gwahanol Gymdeithasau.
Cymerodd marwolaeth William H. Hughes le yn ei gartref ar Church Street am haner awr wedi deg foreu Sadwrn, y 9fed o'r mis hwn. Cafodd ei daro ag ergyd o'r parlys ar yr 21ain o Chwefror, ac wedyn ar yr 28ain, ac ar ol y ddiweddaf, bu yn anymwybodol hyd y diwedd.

Ganwyd ef Ebrill 13eg, 1852, yn Bethesda, Arfon, ac yr oedd felly yn 66 mlwydd oed. Mab ydoedd i Henry a Mary Jane Hughes, ac yn un o chwech o blant, o ba rai y mae tri yn aros, sef John H. Hughes, Munson, Maine; Mrs. Annie H. Burns, Washington, D. C., a Henry H. Hughes, Mohawk, New York.

Pan yn fachgen un-ar-bymtheg oed, daeth gydag aelodau eraill o'r teulu i'r wlad hon, gan sefydlu yn Castleton, Vermont, ac yn ddiweddarach, fe symudodd i Fair Haven, lle y bu yn gweithio mewn chwarelau am rai blynyddau, ac yn agor rhai o honynt. Yn ystod y cyfnod hwnw yr oedd ystori wedi ei gyraedd ef a'i gyfeillion am y darganfyddiad cyfoethog yn Colorado, ac fe aeth efe a'i gyfeillion i Colorado pan oedd y mwngloddiau yn eu babandod, a sefydlodd ef yn Leadville, ac efe oedd yn un o'r mwnwyr cyntaf yno, ac arosodd yno am dair blynedd. Ond chwarelwr oedd efe, ac yn ol i'r chwarelau y daeth, ac fe fu am gyfnod o amser yn agor chwarelau, hyd nes yr ymgymerodd a'r swydd o fod yn werthwr llechau i gwmni Griffith a Nathaniel, pa swydd a gyflawnodd am bedair blynedd-ar-ddeg.

Yn y flwyddyn 1896, fe'i hunwyd mewn priodas a Miss Margaret Davis, o Granville, New York, ac fe wnaethant eu cartref yn Poultney, ac o'r uniad fe anwyd iddynt ddau o blant, sef mab a merch, ond fe fu y ferch farw yn ei babandod, ac mae yn aros i alaru eu colled ar ol priod a thad ffyddlon a gofalus, y weddw a'r mab, sef Robert Morris Hughes.

Nawdd y nefoedd fyddo dros y teulu. Yn mhen ychydig ar ol sefydlu yn Poultney fe ffurfiodd y Poultney Con- solidated Slate Company, ac o dan ei lywodraeth fe ddaeth yn adnabyddus drwy y wlad yn mysg y llech-fasnachwyr, ac yn 1906 fe ffurfiodd gwmni arall, sef Hughes-Snyder Slate Company, gan agor chwarelau yn South Poultney, ac yr oedd hefyd yn dal cysylltiad a'r Green Mountain Slate Company, ac efe oedd goruchwyliwr y cwmni hwn y ddwy flynedd ddiweddaf.

Ond yn ystod yr un mlynedd-ar-hugain o fod yn werthwr llechau, fe ddaeth yn adnabyddus i holl fasnachwyr llechau y wlad, ac yr oedd yn cael edrych arno fel gwr llwyddianus yn ei fusnes. Yr oedd yn feddianol ar gymeriad ardderchog, yn gyfaill a chalon agored ac yn gwneyd llu o gyfeillion, ac yn adnabyddus iddynt wrth yr enw 'Billy' Hughes. Yr oedd yn gymydog da, ac yn barod yn ei gydymdeimlad a'i gynorthwy a rai mewn profedigaeth, a gyda'r cyntaf i helpu yr angenus.

Hefyd yr oedd ei ddylanwad yn gryf ac yn ddyrchafol mewn gwahanol gymdeithasau ag yr oedd yn gysylltiol a hwynt. Yr oedd yn aelod o'r Eureka Lodge, F. and A. M., Fair Haven; Poultney Chapter R. A. M., Killington Commandery K. T.; Cairo Temple A. A. O. N. M. S. o Rutland, ac yn aelod o gyfrinfa 'Arthur' o Urdd y Gwir Iforiaid, wedi gwasanaethu y swydd o Uwch Lywydd y Bwrdd Llywodraethol, yn Ifor cywir, ac yn un o sefydlwyr cyfrinfa 'Arthur.' Mae colled y gyfrinfa yn fawr; ei amcanion penaf oedd cadw ei deddfau ac amddiffyn hawliau Iforiaeth. Yn y flwyddyn 1915 fe gafodd ei anrhydediu gan Cairo Temple i fod yn gynrychiolydd iddi yn y Council a gynaliwyd yn Seattle, Washington.

Cymerodd ei angladd le brydnawn ddydd Mercher, yn ei gartref, Parch. H. P. Scratchley yn gweinyddu gyda swyddogion Killington Commandery K. T., ac yn bresenol yr oedd Blue Lodge Masons, ac aelodau cyfrinfa 'Arthur.' Hebryngwyd ei weddillion i gladdfa'r teulu yn Cedar Grove Cemetery, Fair Haven, Vermont.
Gan H. H. Parry.

Y Drych ~ Mawrth 21ain 1918.


WILLIAM H. HUGHES. POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

The body of William H. Hughes, a former well known resident was brought here, Wednesday of last week for burial in Cedar Grove cemetery, he having died the previous Saturday following a stroke of appoplexy, at his home in Poultney, where he had lived since moving from Fair Haven some 20 years ago.

William H. Hughes was born in Bethesda, North Wales, April 13th, 1852, being one of six children born to Henry and Mary John Hughes. He came to this country when a boy about 16 years of age and he made his home in Fair Haven for almost 30 years. While here he spent three years in Leadsville, returning to embark in the slate industry in which he had unbounded Faith.

Some years later he accepted a position as travelling representative for Griffith and Nathaniel, a position he held for 16 years. He removed to Poultney in 1897 and organized the Poultney Consolidated Slate company and was after its retirement from business connected with the Hughes-Snyder Slate company. In later years he was connected with the Green Mountain Slate company.

"Billy" Hughes as he was popularly known to many radiated good humor and his friends were legion. Nothing showed his social tendancies more than his fraternal afflictions. He was a member of Eureka lodge, F.andA. M., of this place; Poultney Chapter, R. A. M. Killington Commandery, Knights Templar, Cairo Temple. A. A. O. N. M. S. and Arthur lodge of True Ivorites. He had been honored by the Iforites with the office of high president of the governing board and was a delegate from Cairo Temple to its triennial council in Seattle, Washington.

He was married in 1896 to Margaret Davis who with one son, Robert Morris Hughes, survives to mourn the loss of one who was husband and father in the best sense of the words.

The last sad rites were performed Wednesday afternoon of last week, the Rev. H. P. Scratchley conducting the funeral services assisted by Chaplain Ezra Kinsman of Killington Commandery.

The bearers were W. H. Rowland, H. H. Parry, H. L. Sherman, R. Temple Jones, E. O. Parry and P. G. Ross. There was an escort of Knight Templars in full regalia, a body from the Blue lodge of Masons and representatives from Arthur Lodge of True Iforites.

Fair Haven Era ~ March 14th, 1918.