ELIZABETH ELLIS HUMPHREYS. GOMER, ALLEN COUNTY, OHIO.

Er mwyn y llu cyfeillion sydd i'm priod yn y wlad hon, ceisiaf roddi amlinelliad byr o'i hanes.

Merch ydoedd i Lewis ac Elizabeth Ellis, Abergynolwyn, Gogledd Cymru. Ganwyd hi Awst 6ed, 1851. Cafodd ddygiad i fyny ar aelwyd grefyddol, a glynodd hyn wrthi hyd y diwedd. Derbyniwyd hi yn aelod crefyddol yn eglwys yr M. C. yn Panperthog, gan y diweddar Barchedig John Ffoulkes Jones pan oedd yn eneth bymtheg mlwydd oed.

Priodwyd ni yn y flwyddyn 1870, ac yn 1883 ymfudasom i'r America, gan ymsefydlu yn Vaughansville, Ohio, a chysylltwvd ni yn grefyddol ag eglwys yr Annibynwyr yn Comer.

Cafodd gystudd maith a phoenus, a hunodd yn dawel yn yr Iesu foreu Awst 6ed yn ei chartref yn Gomer. Bu ei arosiad yn yr ardal yn fantais iddi ffurfio llawer o gyfeillion pur.

Gadawodd i alaru ar ei hol briod a saith o blant, ac y mae iddi amryw berthynasau yn ardaloedd Randolph, Wisconsin ac Utica, New York. Mae iddi hefyd yn Nghymru frawd a chwaer.

Dygwyd ei gweddillion marwol i gapel Gomer a chynaliwyd y gwasanaeth angladdo1 gan ei gweinidog, y Parch. T. J. Jones. Gosodwyd hi i orwedd yn mynwent Tawelfan. ac y mae fy nghalon yn friw ac yn hiraethus ar ei hol. Gwelsom lawer o garedigrwydd oddiar law ein cymydogion hoff, a bu hyn yn eli gwerthfawr i'n calon. Gorphwysed bellach yn dawel hyd y boreu gwyn y cawn eto gwrdd mewn byd heb ofid mwy.
D. H.

Y Drych ~ Tachwedd 7fed, 1918.