SAMUEL JONES HUMPHREYS. GRANVILLE, NEW YORK.

Dyddiau tywyll a phrofedigaethus i lawer teulu yn y cyffiniau hyn yw y rhai diweddaf. Yn mhlith y lluaws dynion a merched ieuainc a dorwyd i lawr gan yr afiechyd b!in sydd yn cyniwair drwy'r gwledydd ceir Mr. Samuel Humphreys, unig fab Mr. a Mrs. Evan Humphreys, a anwyd yn Bryn Ffynon, Ffestiniog. Gogledd Cymru, 23ain mlynedd yn ol.

Bu farw wedi ymosodiad byr ond llym o'r influenza a pneumonia ddydd Llun, Hydref, 7fed, a'r mawr ofid i'w rieni a phawb a'i hadwaenai. Yr oedd Samue! yn fachgen ieuanc rhagorol ei gymeriad a phrydferth ei foes ac yn un a hoffid yn fawr gan ei gyfeillion. Yr oedd yn aelod ffyddlawn o eglwys y Methodistiaid Calfinaidd er's blynyddau, ac yn barod bob amser i wneyd ei ran yn nglyn a'r achos - a'r flwyddyn hon efe ydoedd un o gasglyddion yr eg!wys.

Cynaliwyd ei angladd ddydd Iau, y lOfed cyfisol, pryd y gwasanaethwyd gan ei weinidog, y Parch. W. Owen Williams, yr hwn a ddug dystiolaeth uchel i'w rodiad a'i fywyd glan. Daeth llu o gyfeillion yn nghyd i dalu iddo y gymwynas olaf o barch, ac yn eu p!ith yr oedd Mrs. Robert J. Evans, Fair Haven, a'i fodryb, gyda Mr. a Mrs. E. C. Owens a'r teulu, a'i ewythr. Robert J. Roberts, o Utica, heblaw y teulu o Granville a'r cylch.

Cydymdeimlir yn fawr a'i rieni a'i chwaer fach fabwysiedig, Elizabeth, yn eu colled a'u gofid. Duw pob gras a roddo iddynt, ac i bob teulu cyffelyb eu amgylchiadau, ei nerth a'i gysuron penaf.
Goh.

Y Drych ~ Hydref 24ain, 1918.