AMELIA ANN DAVIES JONES.UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yn ei chartref, 706 Noyes Street, ddydd Iau diweddaf, bu farw Mrs. Ebenezer Jones, wedi wythnos o ddyoddef poenau y pneumonia. Yr oedd Mrs. Jones mewn iechyd gwanaidd er's rhai misoedd, a phan darawyd hi o'r pneumonia, methodd a dal.Enw morwynol yr ymadawedig ydoedd Amelia Ann Griffith, a ganwyd hi yn Ffestiniog, Gogledd Cymru, 53 mlwydd yn ol, a daeth i'r wlad hon 27 mlynedd yn ol. Yn fuan ar ei dyfodiad yma, ymbriododd a William Charles Davies, yr hwn a fu farw yn 1899. Yn y flwvddvn 1904, ymbriododd a Mr. Jones, yr hwn sydd yn ei goroesi, gyda'r plant canlynol; Frank M. Davies, Caer, Lloegr; Charles M. Davies, Walter E. Jones, Pearl A. Jones a Leona M. Jones o'r ddinas hon.
Yr oedd Mrs. Jones yn aelod ffyddlon o eglwys Bethesda, ac iddi gylch eang o gyfeillion, y rhai sydd gyda'i theulu yn galaru ar ei hol. Cymerodd yr angladd le brydnawn Sadwrn, y Parch. J. Vincent Jones, D. D., yn gwasanaethu. Yr archgludwyr oeddynt: Robert C. Evans, W. H. Williams, Thomas Hughes, Owen Evans a Harry Thomas. Daearwyd y gweddillion yn mynwent Forest Hill.