ELIZABETH JONES. POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

"Bu farw'r gwr aeth trwy y glyn,
Cyn gauaf oer a'r eira gwyn."

Felly Mrs. Richard R. Jones, North Poultney, Vermont, ar y 9fed o Ragfyr, 1918, wedi wyth niwrnod o loes yr influenza.

Ganwyd hi ar dyddyn o'r enw Ceryg Llwydion, yn nghyffiniau Ebenezer, Arfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1835. Fel y mwyafrif o'r hil, drachtiodd lawer o ddyfroedd Marah ar ei thaith ddaearol.

Pan tua chwech oed, gadawyd hi i ofal mam weddw, o herwydd ffrwydriad-powdwr hollt yn y chwarel. Pan yn eneth ieuanc, ymwelodd a'r wlad hon, lle y preswyliai ei chwaer, Mrs. John Closs, yn gyntaf yn Fairhaven, Vermont, ond byr fu ei harosiad yno, a dychwelodd i Gymru, lle yr ymunodd mewn priodas gyda'i phriod, yr hwn a'i rhagflaenodd dros yr afon, ddeng mlynedd yn ol.

Wedi talm o amser, aeth ei phriod a'i ddau frawd i New Zealand, a symudodd hithau a'i dwy eneth fach at ei mam i'w hen gartref. Yn y cyfnod hwnw, bu farw ei mam. Yn ol a glywsom, bu hon yn ystenaid chwerw iawn iddi; yn fwy felly o herwydd absenldeb ei phriod yn y wlad bell.

Rai blynyddoedd wedi ei ddychweliad, daethant i'r wlad hon, gan ymsefydlu dros dymor byr yn Granville, New York; yna symudasant i'r anedd yn North Poultney, lle y trigodd dros ddeugain mlynedd. Yn fuan wedi ymsefydlu yno bu farw eu merch, Winifred, yn 16 oed; a 23 mlynedd yn ol bu farw ei mab, John, yn 25 oed, yn Efrog Newydd, tra yr oedd hi ar y ffordd yno; ond ni chafodd ei weled yn fyw. "Diwrnod ing dyrnod angeu." Y mae pedwar o blant yn aros: Mrs. Evan Williams, Granville, New York; W. R. Jones, Salem, New York; E. R. a M. E. Jones, gartref.

Diameu y mwynhaodd dymorau o heulwen a diolchai am bob rhodd a bendith i'r Duw a'i rhoes; ond pan ystyrir mai bregus fu ei hiechyd, ac iddi at a nodwyd weled claddu dau frawd a dwy chwaer, gellir tybio mai "haul dan gwmwl" a fu iddi fynychaf, ond deallwn na rwgnachai o herwydd hyny. Wedi i'w chlyw drymhau, fel na allai fwynhau parabliad cyhoeddus, diolchai fod ei llygaid yn dal yn oleu. Yr oedd yn hoff iawn o ddarllen, yn y ddwy iaith. ond y Beibl a llyfrau pregethau Cymraeg oedd ei dewisolion o'r oll a ddarllenai. Yr oedd yn dra sionc hyd ei salwch olaf, ond ni feddai nerth digonol i'w ddal.
Gohebydd.

Y Drych ~ Ionawr 30ain, 1919.