ELLEN J. GRIFFITHS JONES. BUTTE, SILVER BOW COUNTY, COLORADO.
Yn gynar foreu dydd diolchgarwch sef y 25ain o'r mis diweddaf, bu farw, Mrs. Ellen Jones, priod W. H. Jones, ysgrifenydd yr eglwys Gymreig.Yr oedd Mrs. Jones, yr hon oedd yn 27 mlwydd oed, yn lled adnabyddus yma ac yr oedd pawb yn hoff o honi. Gwenai bob amser, ac anaml y gwelid un arwydd o ddigter ar ei gwedd.
Cafod gystudd caled am wythnos, sef double pneumonia. Ychydig oriau cyn ei marwolaeth canodd yr emvn, "Ar lan yr Iorddonen ddofn" yn hynod gryf ac effeithiol.
Yr oedd ei phriod a hithau wedi gwneyd cartref cysurus iddynt eu hunain, ond nid ewyllys y Goruchaf ydoedd iddi gael trigo ynddo ond ychydig amser. Bydd colled fawr am dani mewn amryw gylchoedd, ac yn enwedig yn y capel.
Ymfudodd hi a'i phriod o Feddgelert, Arfon. Gogledd Cymru, tua pedair blynedd yn ol, gan ymsefydlu yma.
Enw ei rhieni yw William a Laura Griffiths. Gadawodd briod, rhieni, chwech o chwiorydd a thri brawd.
Cymerodd yr angladd le foreu Sul y laf cvfisol. Gwasanaethwyd gan y Parch. J. Caradog Hughes. Gorchuddid yr arch a blodau amryliw, yr oedd yn arddangosiad o wir barch ei lluaws cyfeillion, a pherthynasau. Anghyhoedd ydoedd yr angladd fel yr oll o'r angladdau yma yn bresenol. Dyma yr ail fwlch mawr wnaethpwyd yn y eglwys Gymreig yn ystod y pum wythnos diweddaf.
Un peth hynod iawn ynglyn a'r amgylchiad ydyw fod y ddwy chwaer, sef Katherine Olwen Jones, ac Ellen Jane wedi eu dwyn i fyny yn yr un ardal ac wedi ymfudo i'r un lle, ac hefyd wedi eu cymeryd i'r trigfanau nefol mor agos i'w gilydd. Mae ein cydymdeimlad llwvraf gyda'i phriod yn ei alar trwm a'i brofedigaeth lem. Carem ysgrifenu mwy o hanes yr oll, ond ofnwn fod yr ysgrif braidd y faith eisoes, ac mewn canlyniad yn trethu gofod y "Drych." Ond hyderwn y bydd hyn o eglurhad yn foddhaol gan berthynasau a chyfeillion yr oll a gollasant y rhai oedd mor hoff ganddynt.
Gan T. Eilian Williams.