GRIFFITH PIERCE JONES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
The death of Griffith Pierce Jones, which occurred at his home, 1133 Dudley Avenue, last night, will be regretted by many friends and relatives in this city.He had been in ill health for four years and his death although not entirely unexpected brought heartfelt grief to many.
Mr. Jones was a member of Bethesda Church, the Catholic Endeavour Society of the church and also of Goronwy Lodge, No. 37, American Order of true Ivorites.
He was born February 13th, 1892, in Dyffryn merionethshire, Wales, a son of Griffith and Ellen Jones. He came to this country in April, 1910, with his parents, settling immediately in thid city, where he had since made his home.
Besides his parents he is survived by three sisters, Mrs. William Watkins, Miss Jennie Jones, Miss Bessie Jones and four brothers, Robert, John, Hugh and William Jones, all of this city.
Find a Grave.
GRIFFITH PIERCE JONES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Fel yr hysbyswyd mewn rhifyn diweddar o'r 'Drych,' bu y brawd ieuanc uchod farw yn ei gartref, 1133 Dudley Avenue, nos Fercher, Ionawr 23ain.Mab ydoedd i Griffith ac Ellen Jones, gynt o Lodge Gorsygedol, Dyffryn, Sir Feirionydd, a daeth i'r wlad hon gyda'i rieni gan sefydlu yn Utica wyth mlynedd i Ebrill nesaf.
Cafodd gystudd maith am yn agos i bum mlynedd, a daeth amryw o nodweddion ei gymeriad pur yn ddysglaer i'r amlwg. Yn ystod ei holl afiechyd bu yn amyneddgar a goddefgar; ni chwynai un amser yn erbyn y drefn ag oedd yn peri iddo ef yn ngwanwyn bywyd gael ei gaethiwo i'w ystafell, a dyoddef llawer. Byddai bob amser yn llawen, er y dyoddefai gryn lawer o arteithiau cystudd ac afiechyd.
Yr oedd yn Gymro brwd, ac yn aelod o'r Cymdeithasau Cymreig yn y ddinas, ac o eglwys Bethesda, a ffyddlondeb oedd rinwedd mawr ynddo tra y gallai ddylyn y cyfarfodydd. Bachgen tawel, diabsen, a gair da ganddo i bawb y deuai i gyffyrddiad a hwy.
Cymerodd ei angladd le y Sadwrn dylynol, y Parch. J. Vincent Jones, D. D., yn gwasanaethu. Canwyd gan y pedwarawd, Mrs. John H. Rees, Miss Elin Jones, John H. Rees a Wm. S. Roberts, a gwasanaethid fel archgludwyr gan Francis Owen, Rowland Williams, W. T. Williams, John Williams, John Thomas, Robert Williams a John Morgan. Yn gorchuddio ei arch yr oedd blodau lu oddiwrth gyfeillion a pherthynasau, ac oddiwrth weithwyr Swyddfa'r 'Drych,' yr Iforiaid, y Cymreigyddion ac Ymdrechwyr Ieuainc Bethesda. Fel hyn y canodd William T. Williams, Utica, i'w goffa:
O ofid byd a'i ryfel - yr hwyliodd
I'r alwad oruchel;
Yno mwy caiff sugno mel,
O swn ing yn san angel.
Gedy mewn galar ei rieni, tair chwaer, Mrs. William Watkins, Misses, Jennie a Bessie Jones; pedwar brawd,; Robert, John, Hugh a William Jones, yr oll o Utica. Dymuna y teulu gydnabod yn ddiolchgar bob caredigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth lem hon, a'r rhai blaenorol yr aethant drwyddynt.