GRIFFITH WILLIAM JONES. COLD BROOK, HERKIMER COUNTY, NEW YORK.
Newydd prudd i amryw o hen gyfeillion yn nghylchoedd Utica fydd yr un am farwolaeth y Cymro Griffith W. Jones, Cold Brook, Sir Herkimer. yr hyn a gymerodd le ddydd Iau diweddaf yn ei gartref yn y lle hwnw. Gan iddo fod yn byw yn Utica am dymor o tua deg mlynedd yr oedd iddo gylch eang o gydnabyddiaeth yma.Ganwyd Griffith W. Jones yn Llanuwchllyn, Gogledd Cymru, 67 mlynedd yn ol; enw ei rieni oeddynt William G. a Hannah Jones.
Treuliodd flynyddoedd el ienenctyd gyda ei ewythr, Thomas Roberts, Hinckley, ond daeth i Utica am dymor o ddeg mlynedd, ond symudodd yn ol i Hinckley, ac yn ddiweddarach prynodd fferm ger Cold Brook, lle y bu fyw y gweddill o'i oes. Yr oedd yn Gymro pybyr, yn Eisteddfodwr cyson, ac yn gyfaill caredig.
Yn aros mewn galar y mae ei briod, Mrs. Helen Evans Jones; tair merch a dau fab, set Mrs. Arvene Paul, o Utica; Mrs. Guy Shorey, o Gorham, New Hampshire; Mrs. Jeny Mulchy, Utica; Thomas G. Jones, Montreal; Wm. G. Jones, Cold Brook; un brawd. Edward W. Jones, o Swyddfa'r "Drych," a chwaer, Mrs. W. W. Keating, o Norwich. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod o Remsen Lodge. F. and A. M.
Cymerodd ei angladd le y Sul diweddaf gyda gwasanaeth y Seiri Rhyddion yn nghapel M. C. Prospect, a daearwyd ei weddillion yn mynwent Prospect.