HARRIETT JONES. DAWN, LIVINGSTON COUNTY, MISSOURI.

Ddydd Mercher, Ebrill y 24ain, 1918, yn ei chartref yn Dawn, Missouri, bu farw Mrs. Harriett Hughes, priod y Parch. Hugh X. Hughes, yn 61 mlwydd oed, o'r cancr, a ddechreuodd arni dros flwyddyn yn ol.

Ganwyd Mrs. Hughes yn ardal Cefnddwysarn, yn agos i'r Bala, Gogledd Cymru, yn ferch i Robert R. a Gwen Jones. Ymfudodd y teulu o Gymru pan yr oedd Mrs. Hughes ond tair oed i Newark, Ohio. Bu y teulu yn byw yn ardal Newark am tua 10 mlynedd, a symudodd y teulu oddi yno i ardal Dawn, Missouri. Yr oedd tua 13eg oed y pryd hwn, ac yn yr ardal hon y treuliodd y gweddill o'i hoes, cyfnod o tua 48 o flynyddau, ond ychydig amser yn Oklahoma.

Bu farw ei thad a'i mam amryw flynyddau yn ol yn yr ardal hon, os wyf yn cofio yn iawn. Yr oedd iddynt wyth o blant; saith o ferched ac un mab, a'r ymadawedig Mrs. Hughes oedd yr ieuengaf o'r teulu, ac hefyd y diweddaf; a gellir ychwanegu eu bod yn deulu nodedig mewn mwy nag un ystyr. Yr oeddent oll yn hynod yn eu sirioldeb a'u caredigrwydd, ac yn anrhydedd i'r genedl a chrefydd. Buont oll yn briod, a theuluoedd ganddynt. Nid oes neb o'r teulu hwn ar ol; yr oll wedi myned hyderwn i fyd sydd well i fyw.

Priododd yr ymadawedig a'r. Parch. H. X. Hughes yn agos i ddeugain mlynedd yn ol yn yr ardal hon, ac yma yn benaf y maent wedi cartrefu hyd ei marwolaeth gan adael ei phriod oedranus a phump o blant i alaru eu colled o'r cyfaill penaf a welant byth oherwydd yr oedd hi yn un o ragorolion y ddaear. Yr oedd iddynt bump o blant; tair o ferched a dau fab, yr oll yn briod, ond y mab ieuengaf, Garfield, wedi bod yn weithgar a ffyddlon iawn i wneyd cartref cysurus i'w dad a'i fam. Bu yr oll o'r plant ar eu goreu i wneyd pob peth a allent i'w mam yn ei salwch. Cafodd bob gofal ag y gallai ymdrech ac arian ei wneyd iddi, ond fel y gellir dweyd am bawb o honom pan y daw ein hamser, bu farw.

Ar y 26ain o Ebrill, cynaliwyd y gwasanaeth angladdol yn nghapel y Presbyteriaid, ac yr oedd y capel yn orlawn a'r arch wedi ei haddurno a blodau. Gweinyddwyd yn y capel a'r fynwent gan y Parch. H. P. Morgan, Emporia, Kansas, a cynorthwywyd ef gan y Parch. Thomas M. Griffiths. Claddwyd hi yn mynwent y Cymry lle y mae lluaws o Gymry anwyl yn gorwedd hyd adgyfodiad y Cyfiawn.

Y mae cydymdeimlad yr ardal a'r galarwyr, ac yn neillduol a'i phriod yn ei henaint. Daeth Jonathan Jones o Columbus, Ohio, i'r gladdedigaeth. Yr oedd Mr. Jones wedi bod yn briod a chwaer i'r ymadawedig.
T. G.

Y Drych ~ Mai 9fed 1918.