HENRY PARRY JONES. POULTNEY, VERMONT.
Mehefin 30ain, 1918. Yn Chester, Pennsylvania, y 13eg cyfisol, ar ol rhai misoedd o gystudd trwm, bu farw y cyfaill Henry Parry Jones.Ganwyd ein cyfaill yn Brynrefail, Arfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1855. Daeth i'r wlad hon oddeutu 30 mlynedd yn ol, gan sefydlu yn West Pawlet. Yn mhen rhai blynyddau symudasant fel teulu i'r lle hwn. Flwyddyn yn ol symudasant i'r lle a nodwyd. Gedy ei briod, tri o feibion a merch fabwysiedig, sef John. Evan a Mrs. Hughes o'r lle hwn, a Henry yn Wind Gap, Pennsylvania; un brawd. John Parry Jones, yn Chester, Pennsylvania, a chwaer yn Llanberis, Gogledd Cymru.
Cymeriad tawel a divmhongar oedd ein cyfaill; yr oedd yn aelod o eglwys Gymreig y lle hwn, ac yn ddiau, yn un o'r rhai mwyaf ffyddlon. Yr oedd hefyd yn un o aelodau ffyddlonaf cyfrinfa "Arthur," U. G. F. A.. yn y lle hwn. Gwasanaethodd fel caplan am flynyddau. Cyraeddodd y teulu a gweddillion y cyfaill yma nos Sadwrn, y 15fed cyfisol, a chynaliwvd y gwasanaeth angladdol yn yr addoldy Cymreig prydnawn y Sul dylynol gan y Parch. John W. Morris, ac ar lan y bedd yn mynwent Poultney gan Mr. Morris a chaplan y Gyfrinfa, yr hon oedd wedi troi allan yn gryno i dalu y gymwynas olaf i'r brawd a fu yn troi mor hir yn eu plith.
Cydymdeimlir yn gyffredinol a'r teulu yn eu profedigaeth lem.