JAMES JONES. SLATINGTON, LEHIGH COUNTY, PENNSYLVANIA.
Sul, Chwefror 17eg, 1918 bu farw James Jones yn ei gartref ar Chestnut Street.Genedigol ydoedd o ardal y chwarelau, sef Corris, Gogledd Cymru; bu y teulu yn byw am rai blynyddau yn Danielsville, Pennsylvania.
Ei oedran ydoedd 67 mlwydd oed.
Gadawodd weddw ac un mab, sef Harry, a phump o chwiorydd, sef Mrs. John W. Lloyd, Lerpwl; Mrs. James Harris, Mrs. Morris Lewis, Mrs. Catherine Pugh, yn nghyd a Miss Gwen Jones; yr oll yn Nghymru.
Claddwyd y dydd Mercher canlynol yn Fairview Cemetery, Slatington, a gwasanaethwyd gan y Parch., R. D. Williams.