JOHN MERDDYN JONES. PHOENIX, MARICOPA COUNTY, ARIZONA.

Ymwelodd y Cymro parchus, Richard Roberts, Wardner, Idaho, a'n dinas yn ddiweddar ar y neges bruddaidd o gladdu gweddillion John Merddyn Jones, Ceunant, yr hwn a adawodd ei gartref yn Wardner, Idaho, gan ymdrechu i fyned i rywle i wella ei iechyd. Gan wendid a gwaeledd ei iechyd, methodd fyned yn mhellach na'r ddinas hon, ac wedi cyraedd yma i ganol dyeithriaid, yr oedd yn rhy wan a di-nerth i ddweyd ei gwyn yn yr ysbyty.

Ysgrifenodd yr awdurdodau at ei gyfeillion i Wardner, Idaho, a darfu i'w gyfeillion a'r awdurdodau yno wneyd y boneddwr Cymreig Mr. Richard Roberts o'r lle hwn yn swyddog cyfreithlawn i weinyddu yn yr amgylchiad; a da genym dwyn tystiolaeth ei fod y dyn iawn yn ei iawn le.

Enw yr ymadawedig oedd John Merddyn Jones; gadawodd ei gartref yn Ceunant, Llanrug, sir Gaernarfon, ddeuddeg mlynedd yn ol, a daeth i Wardner. Deallwn ei fod wedi bod yn ddarbodus ac mewn amgylchiadau cysurus.

Mab ydoedd i Mrs. Elizabeth Jones. Merddyn. Llanrug, sir Gaernarfon. Pan ddaeth Mr. Roberts ir ardal hon daeth yn syth i'n gweled ni ychydig Gymry sydd yn y ddinas, ac y mae yn llawen genym nodi i bawb wneyd eu goreu i roddi angladd Gristionogol i'r Cymro unig a fu farw yn mhlith dyeithriad yn y ddinas hon. Prynodd Mr. Roberts arch brydferth i ddal ei weddillion, a gosodwyd ef i orwedd mewn bedd ar fryn dymunol yn rhan oreu'r gladdfa nodedig, sydd tua milldir allan o brif fan y dinas. Dygodd y bardd Thomas E. Thomas ei fodur allan hefyd; y Parch. Lehigh, D. D., a daeth a'i fodur yntau, a llanwyd hwy gan Gymry a'u cyfeillion, ac aethom at lan y bedd i dalu y gymwynas olaf i weddillion un o'n cyd-genedl.

Mae Mr. Richard Roberts eisoes wedi anfon gair caredig at fam yr ymadawedig, a chredwyf y bydd iddo ef fyned i Gymru yn y dyfodol agos fel y gall efe egluro'r holl fanylion yno.

Ar gais y gwragedd yma darfu i ninau anfon gair byr o fanylion y cydhebrwng i'r fam anwyl sydd mewn galar ar ol ei mab a fu farw yn mhlith dyeithriaid. Yr oedd yr ymadawedig yn frawd i Owen Jones, Llanrug.
GAN JOHN B. LODWICK.

Y Drych ~ Tachwedd 28ain 1918.