JOHN R. JONES. NANTICOKE, PENNSYLVANIA.

Nanticoke, Pennsylvania, Chwefror, 8fed, 1918.
Blin genyf orfod cofnodi marwolaeth ein cyfaill ffyddlon a'r Cristion dysglaer didwyll, Mr. John R. Jones, o'r dref hon, yr hwn a hunodd yn yr Iesu am naw o'r gloch foreu dydd Gwener, Ionawr 25ain, 1918, er galar mawr i'w luaws gyfeillion o bob cenedl.

Ganwyd Mr. Jones mewn lle o'r enw Arthog yn sir Meirionydd, Gogledd Cymru, Rhagfyr 11eg, 1871; felly yr oedd yn 47 oed pan ymadawodd a'r fuchedd bresenol i fwynhau gorphwysfa dragwyddol y saint yn y nefoedd.

Mab ydoedd i Mr. a Mrs. Rowland Jones, pa rai oeddynt yn fawr eu parch yn nghymydogaeth Arthog. Ymfudodd Mr. Jones i'r wlad hon yn y flwyddyn 1892, ac ymsefydlodd yn Wilkes-Barre, Pennsylvania, a'r 15fed o Ebrill, 1896, ymunodd mewn priodas a Miss Hannah Lewis, merch i Mr. a Mrs. Benjamin Lewis, South Wilkes-Barre. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y diweddar Barch. John O. Jones, a bu yr undeb yn un wir dedwydd, canys ni fu neb erioed yn caru eu gilydd yn fwy na Mr. a Mrs. Jones. Yn mhen ychydig ddyddiau wedi iddynt briodi, symudasant i Nanticoke, ac yma y buont yn byw yn gysurus ac mewn parch mawr, nes i angeu ddatod y cwlwm ddaearol. Gadawodd i alaru ar ei ol weddw a phump o blant, sef Margaret, Mary, Benjamin, Ann a Rowland; hefyd brawd a chwaer yn Nghymru, sef William yn byw yn Arthog, a Mr. Bob Davies yn Bermo.

Deallwn fod ein hanwyl frawd wedi cymeryd arno iau Crist yn moreu ei oes, a glynodd wrth ei broffes hyd y diwedd, yr hyn yn ddiameu a drodd yn elw tragwyddol iddo, oblegid prif ddyben ei fywyd oedd byw yn debyg i Grist er mwyn Crist.

Gydag enwad parchus, y Trefnyddion Calfinaidd, yr oedd yn aelod, a bu yn ffyddlon i reolau ac egwyddorion ei enwad, ond yr oedd ganddo barch calon i enwadau eraill. Nid sect oedd ei fympwy ef ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio, a pha le bynag y deuai i gyffyrddiad a phobl oedd yn ceisio byw Crist hwy a ystyriai efe ei gyfeillion goreu. Bu am dros 15 mlynedd yn ddiacon ac ymddygodd mor deilwng o'i swydd fel ag y bu iddo osod cymaint o anrhydedd ar y swydd ag a osododd y swydd arno yntau. Bu am flynyddoedd yn athraw yn yr Ysgol Sabbothol, a gwnai hyny yn gydwybodol trwy ei ffyddlondeb, ac ni fyddai heb baratoi ar gyfer ei ddosbarth. Yr oedd yn Ysgrythyrwr cadarn, yn dduwinydd galluog, a'r Beibl, ac nid opiniynau dynol oedd rheol ei ffydd a'i ymarweddiad bob amser.

Bu yn ffyddlon yn nghyfarfodydd yr eglwys; cymerai ran gyhoeddus, a bu yn haelionus ei gyfraniadau, a gellir dweyd am dano, yr hyn a allodd hwn efe gwnaeth yn ddirwgnach er lles ei gyd-ddynion ac er gogoniant Crist, ac mae yr eglwys, yn yr hon yr oedd yn aelod, yn teimlo ei cholled yn fawr iawn, oblegid gellid ymddibynu ar ei air ef.

Nid oedd ein brawd wedi bod yn rhyw iach iawn er's blynyddau ond achos uniongyrchol ei farwolaeth oedd pneumonia, ac ni fu yn gystuddiol ond pum diwrnod.

Claddwyd ei ran farwol y dydd Mawrth canlynol. Wedi byr wasanaeth yn y ty aed i'r capel lle y cafwyd gwasanaeth pellach dan arweiniad ei weinidog parchus, H. W. Griffiths, Plymouth; R. R. Davies. Wilkes-Barre, ac A. L. Rowe yn cymeryd rhan.

Claddwyd yn mynwent brydferth Hanover Green. Bydded yr Arglwydd yn amddiffyn ac yn gysur i'r perthynasau oll, a bydded iddo alw eraill i lenwi y bylchau a wneir yn rhengoedd Seion y dyddiau hyn.
Gan y Parch. A, L. Rowe.

Y Drych ~ Chwefror 21ain 1918.