JOHN RICHARD JONES. WILKES-BARRE, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.

Gyda chryn brudd-der y cafnodwn bywyd a marwolaeth ein cyfaill serchog John Richard Jones. 184 Mc-Lean Street, Wilkes-Barre, Pennsylvania, yr hwn tra wrth ei orchwyl fel brakeman ar linell y Lehigh Valley a gyfarfyddodd a'i ddiwedd drwy gael ei daro gan agerbeiriant, a hyny haner awr union ar ol dechrau gweithio yn y Croton yards ar y 25ain o Fai diweddaf.

Anhawdd iawn ydyw meddwl fod John Richard. fel y byddem yn ei alw, wedi ymadael a'r fuchedd hon mor sydyn, ond da genym feddwl mai y peth diweddaf a welodd y teulu trallodus oedd gwen ar ei wyneb yn ymadael a hwy yn y dref at ei orchwyl. Nos Sadwrn y dygwyddodd y ddamwain ac yr oeddynt yn ei hebrwng at ei waith yn ddigon difeddwl mai Duw fyddai yn ei hebrwng cyn pen yr awr i'r byd nad oes ynddo boen.

Ganwyd John yn 2 Bowydd Street, Blaenau Ffestiniog, a hanai o deulu a barchwyd gan boll drigolion Ffestiniog a'r cylch, a pharchwyd yntau fel ei rieni gan bawb ddaeth i gyffyrddiad ag ef. Teiliwr oedd o ran ei a1wedigaeth bron ar hyd ei oes, ac nid oedd wrth y gorchwyl o brakeman ond er mis Ionawr diweddaf, ac fel pe wedi ei ddenu i'w ddiwedd yr wyf yn meddwl am dano. Prentisiwyd ef i'r alwedigaeth o deiliwr gyda Caradog Jones a Lewis Davies yn Blaenau Ffestiniog cyn dod i'r wlad hon 14 mlynedd yn ol, a gweithiodd ar y bwrdd mawr yn y wlad hon fel teiliwr a thorwr gyda Simon Long and Sons, The Hub, Stafford and Trainers, ac eraill yn Wilkes-Barre, ac yr oedd efe yn ffafr ddyn pa le bynag yr elai gan fod ei fywyd mor syml a dirodres.

Ymbriododd John ddeng mlynedd yn ol gydag Amelia, merch hynaf y diweddar Chief of Police Jones neu Chief Jones fel y byddai pawb yn ei adwaen, yr hon fu yn wraig ffyddlon iddo hyd ei ddiwedd, a ganwyd un ferch iddynt, sef Elizabeth, ac mae'r ddwy heddyw mewn galar o golli gwr a thad ffyddlon a diwyd, a hoffai John ei deulu yn fwy nag ef ei hun. ac aberthai bob peth er eu mwyn. Cartref cysurus i deulu hapus oedd ei safbwynt, a thua'r nod uchel hwn y gweithiai mor ddiwyd, ac fel y gwyr cymydogion y teulu fod gwaith ei ddwylaw o gwmpas ei aelwyd a'i gartref yn aros, ac yntau yn methu gwneyd dim mwy tuag at ei orphen.

Heblaw ei deulu trallodus yma, gedy John ei dad William Jones (Hen Gapten) mewn gwaeledd yn Trealaw, D. C., yn ei hen ddyddiau; hefyd chwaer a brodyr, sef Elizabeth Morris, David a Gruffydd Jones yn Nghymru, yr olaf yn filwr yn Ffrainc; hefyd Gwilym Jones yn Detroit, Michigan; hefyd chwaer Mrs. Jones, sef Miss Mary J. Jones, yr hon oedd fel chwaer iddo yn Wilkes- Barre, Pennsylvania, ac maent i gyd mewn mawr alar ar ol John.

Derbynied yr holl deulu gydymdeimlad llu o gyfeillion. Y mae mynwent Hollenbeck yn lle mwy cysegredig i ni yn awr er y diwrnod y rhoddwyd John Richard i orwedd yn ei daear diwrnod o flaen Decoration Day 1918. Huned dawel hun y gwr da. Bydd yn chwith i eglwys Parrish Street (Bedyddwyr) ar ei ol. Gwasanaethwyd yn y ty a'r capel, ac wrth y bedd, gan ei weinidog, J. V. Lewis, yn hynod o deimladwy. Heddwch i'w lwch.
Dymunir ar i bapyrau Cymru wneyd nodiad o'r uchod).
Gruffydd.

Y Drych ~ Mehefin 20fed 1918.


JOHN RICHARD JONES. WILKES-BARRE, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.

WILKESBARRE BRAKEMAN KILLED IN COXTON YARD.

John R. Jones, aged 34 years, of McLean Street, Wilkesbarre, was instantly killed on Saturday night, when he was run over by a Lehigh Valley bull moose locomotive in the Coxton yards.

Jones was employed as a brakeman and was making up his freight train preparatory to a trip to Delano, when he was struck by an engine on its way to the ash bank. He was thrown under the wheels and instantly killed. He had reported for work at 11.15 and the accident occurred at 11.55.

Before taking employment on the railroad last January he was employed as a tailor in Wilkesbarre stores.

He was a member of the Parrish Street Baptist Church. His wife and one daughter, Elizabeth, survive. The funeral will take place Wednesday afternoon.

Pittston Gazette ~ May 27th, 1918.


JOHN RICHARD JONES. WILKES-BARRE, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.

RAILROADER KILLED BY BIG ENGINE.

John R. Jones, 34 years old, of 184 McLean Street, this city, a brakeman, was run over and instantly killed by a Lehigh Valley bull moose engine about midnight Saturday in the Coxton yards, only a short time after he had reported for work. He reported for work at 11.15 o'clock, and the watch he carried in his vest pocket was found to have stopped at 11.55. Prior to accepting a position with the Lehigh Valley Railroad Company in January, Jones was employed as a tailor in this city.

A bull moose engine on its way to the ash pile struck Kones as he was making up his freight train prior to the trip to Delano. He was thrown under the wheels of the locomotive.

Before becoming a brakeman, Jones was employed as a tailor in Simon Long's Sons, The Hub, Stafford and Trainor and other local stores. He was a member of the Parish Street Baptist Church and also a member of the adult bible class of the Church.

He is survived by his wife, Mrs. Amelia Jones, a daughter of the late Chief of Police Jones; one daughter, Elizabeth, and the following brothers and sisters : Mrs. Elizabeth Morris, David of Wales; Griffith, with the British Army in France, and Gwilym of detroit, Michigan.

The body was taken to his home on McLean Street, from where the funeral will be held on Wednesday afternoon, Rev. J. V. Lewis, pastor of the Parrish Street Baptist Church, will officiate. Internment in Hollenbeack Cemetery.

Wilks-Barre Times Leader ~ May 27th, 1918.