JOHN S. JONES. WATERVILLE, NEW YORK.

Prudd iawn i mi oedd gweled am farwolaeth fy anwyl gyfaill, John S. Jones, Waterville, New York, drwy iddo gael ei losgi mewn damwain gyda gasolene engine. Cefais y manylion am y ddamwain oddiwrth ei frawd. Yr oedd tri o honynt yn gweithio i lanw silo, ond gan fod y tywydd yn oer, methent a chychwyn y peiriant. Yr oedd dau o honynt yn gweithio i gychwyn y peiriant pan ddaeth John S. y tu ol iddynt. Yn eu hymyl yr oedd llestr yn cynwys tua haner galwyn o gasolene, a chymerodd hwnw dan. Llosgwyd dau o honynt yn bur ddrwg, ond llwyddodd un o honynt, gan fod dwfr yn ymyl, i roddi y tan allan, ond cafodd y tan afael dynach yn fy nghyfaill, mor ddrwg y llosgwyd ef fel ag y collodd ei fywyd.

Yr wyf yn ysgrifenu hyn o nodyn gan na ddarfu i'ch gohebydd roddi llawer o hanes boreuol fy nghyfaill. Yr oedd yn enedigol o Gwm Cowarch, Dinas Mawddwy, Gogledd Cymru, yr un lle a minau. Ei rieni oeddynt Dafydd ac Elizabeth Jones, a ganwyd ef mewn ffermdy o'r enw Tynyfedw. Yr oedd yn un o bump o blant, sef un chwaer a phedwar o frodyr, sef Anne. John, Richard, Evan a Robert. Yr oedd dau o'i frodyr wedi ei ragflaenu y tu hwnt i'r llen. Bu farw Evan tua'r un adeg a'r canwr adnabyddus. Evan Thomas Evans, Perthyfelin. Cadwai Evan gartref i'w fam, ac yr oedd cwlwm cariad dyned rhyngddynt fel na bu hi byw lawn blwyddyn ar ei ol.

Yn ddiweddarach, bu farw Richard. ac y mae dau o'r teulu eto yn aros, sef yr hynaf a'r ieuengaf: Mrs. Anne Thomas, 1102 Second Avenue North, Great Falls, Montana, a Robert, yn Waterville. New York. Yr oeddynt yn blant a weithient yn galed yn nyddiau eu hieuenctyd, ac o herwydd hyny ni chafodd yr un o honynt lawer o ysgol ddyddiol, ond byddent yn ffyddlawn yn y capel a'r Ysgol Sul; a bu John drwy ei fywyd yn fyfyriwr craff o'r Ysgrythyr. Cofiaf, pan ar fy ffordd yn ol o Gymru, i mi fyned gydag ef i'r capel a'r Ysgol Sul; yr oedd yn aelod ffyddlawn o'r dosbarth Beiblaidd. a meddyliai yn fawr iawn o'i athraw, sef Hugh Thomas, y Stor. Mae yntau wedi gadael y fuchedd hon or's tro, fel y darllenais yn y "Drych" flynyddau yn ol.

Bu John S. yn gweithio am rai blynyddau yn chwarelau Ffestiniog, ac addiyno y daeth i'r Unol Dnlaethau tua 23 o flynyddau yn ol. Daeth ei dad i'r wlad hon pan oedd y plant yn rhai bychain, ond ni fynai ei fam adael ei gwlad enedigol; ac fel y dywedwyd eisoes, bu hi farw yn Nghymru, a bu y tad farw tua phum mlynedd yn ol yn Waterville, New York. Hefyd, un o ferched Dinas Mawddwy oedd priod John S. sef merch i John a Catherine Roberts, a nith i Ellis Roberts, Holland Patent. Erbyn hyn y mae y ddau wedi gadael y fuchedd hon, a phump o blant bychain, a llawer o berthynasau a ffryndiau yn teimlo y golled o'u smudiad. Nodded y nefoedd a fyddo dros y rhai bychain yn eu hunigedd.
Gan David W. Jones, Garden Grove, Iowa.

Y Drych ~ Chwefror 20fed 1918.