DAVID WALTER DAVIES. HANOVER, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.

Bu y Cymro adnabyddus, sef David Walter Davies, farw o ergyd o'r parlys, Hydref 24ain, yn 72 mlwydd oed. Bu farw yn Wilkes-Barre yn nhy ei hen gyfaill, Griffith Williams, yr hwn a fu yn ofalus iawn ohono yn ei saldra diweddaf, a gwnaeth bob peth trosto oedd yn bosibl, ond yr oedd y saeth wedi ei daraw mor drwm nad oedd gobaith gwellhad iddo. Claddwyd ei weddillion yn Wilkes-Barre.

Mab ydoedd yr ymadawedig i Walter a Jane Davies, masnachwr yn Blaenau Ffestiniog, a daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1889 o Ffestiniog, gan ymsefydlu yn New York. Bu ar Wards Island fel gofalydd o'r bobl oedd wedi colli eu synwyrau, a bu yn ffortunus iawn yn ei waith am flynyddoedd. Bu fel gofalydd am ddwy flynedd ar bymtheg yn y Deaf and Dumb Institute, ac yr oedd wedi dysgu siarad a'r rhai oedd tan ei ofal, ac yr oedd yn barchus iawn gan bawb.

Tua blwyddyn a haner yn ol ymddiswyddodd o herwydd ei iechyd, ac mewn ysbaid aeth i Wilkes-Barre. Yr oeddwn yn reit adnabyddus ag ef. Yr oedd yn ddyn dyddorol iawn i fod yn ei gwmni a gwrandaw arno yn dweyd hanesion pethau oedd wedi bod dan ei sylw yn gofalu am y rhai anffortunus o dan ei ofal. Yr oedd yn ddyn uniawn ei ffordd ym mhob ystyr. Cofus genyf glywed ffrind yn gofyn iddo, "Wel Mr. Davies, yr ydych yn edrych yn dda iawn; sut yr ydych yn esbonio eich bod yn edrych mor dda?" "Wel," meddai, "wedi bod yn dda wrth fy nhad a mam ydwyf, ac yn wir, yr oedd wedi bod yn dda wrth bawb a ddaeth i gyffyrddiad ag ef.
Heddwch i'w lwch.
Efrogydd.

Y Drych ~ Tachwedd 14eg, 1918.


LEONARD JONES. POULTNEY, VERMONT.

Ddydd Sabboth, Hydref y 6ed, cyraeddodd y newydd galarus am farwolaeth y brawd ieuanc uchod, yn yr oedran cynarol o 26. Mab ydoedd i Mr. a Mrs. Owen Jones. Creigiau Mawr, Penygroes, Gogledd Cymru, a nai i Mr. Robert O. Roberts. Half Way, Granville, New York. Ymfudodd i Canada yn mis Mawrth, 1914, lle y bu yn aros am oddeutu blwyddyn; wedi hyny ymfudodd i'r Talaethau, gan ymsefydlu yn Poultney. Vermont.

Gweithiodd ran helaeth o'i amser i'r Stasso Milling Company, Castleton. Vermont.

Gorphenaf 28ain, 1917 ymbriododd a Miss Winifred Jones, chwaer i David O. Jones, gof, Granville, New York. Sefydlasant eu cartref yn Poultney yn nghanol dymuniadau llu o gyfeillion am eu hapusrwvdd a hir oes iddynt yn eu hymrwymiad priodasol.

Yn nghanol swn ymfudo i wahanol fanau cymellwyd hwythau i gymeryd yr un cwrs, yr hyn a wnaethant, gan drefnu i sefydlu yn Ilion. New York, a cheisio sicrhau gwaith ill dau yn y Remington Arms. Gadawsant Poultney Sadwrn yr 28ain o Fedi. 1918. Wedi cvraedd o honynt i Herkimer, lle y bwriasant aros, sef yn nghartref Mr. Hugh L. Jones, Alvars Block, teimlai yr ymadawedig gur yn y pen.

Ni thybid ar y dechreu ei fod yn ddim amgenach na rhywbeth allasai fod wedi ei gynvrchu wrth deithio yn y gerbydres. Ceisiwvd rhoddi iddo gyffyriau a fyddai yn debygo1 o roddi iddo ollyngdod buan o'r cur, ond nid felly y bu. Ymddangosai fod yr anhwvldeb yn enill nerth arno. Galwyd y meddyg yn ddioed, yr hwn heb ddeall ei afiechyd yn sicr a ddywedodd nad oedd dim byd peryglus iawn yn ei afiechyd, ond pan y galwodd drachefn, canfyddodd fod ei afiechvd wedi dadblygu i fod yn glefyd yr ysgyfaint. Felly er gofal Dr. Cainfield a charedigrwydd Hugh L. Jones. a gwasanaeth y nvrs broffesedig, gwelwyd ei fod yn ngafael afiechyd oedd yn myned i brofi yn angeuol iddo.

Brydnawn Sabboth. Hydref y 6ed, daeth pellebyr yn hysbysu ei fod mewn cyflwr peryglus o wael, ac yn dylyn yn hwyr yr un dydd, daeth y newydd trist am ei farwolaeth. Dyn ieuanc ydoedd, a mesur helaeth o dawelwch yn ei nodweddu. Mewn cylch cymdeithasol byddai yn wastad yn barotach i wrandaw nag i siarad. Sicr fod yr elfen hon yn enill iddo lu o gyfeillion. Nis gellir dweyd iddo droi mewn cylch cyhoeddus eang, nac ychwaith gyflawni unrhyw swydd urddasol mewn byd nac eglwys. Gellir dweyd iddo weithio yn onest ei ddiwrnod gwaith a thalu ei ffordd yn onest i bawb.

Gallai hefyd huno yn dawel yn mhriddellau'r dyffryn gyda thystiolaeth yn aros o'i ol ei fod wedi bod yn briod hawddgar a charedig, yr hyn a erys i berarogli yn goffadwriaeth anwyl am dano.

Yn ei gysylltiadau crefyddol yr oedd yn aelod o eglwvs Annibynol Fair Haven, ond ni arddangosodd lawer o ffvddlondeb yn y cylch crefyddol, ac er byny, teg yw dweyd nad oedd arferion llygredig yr oes wedi ei demtio i fod yn gaeth iddynt. Er iddo golli ei fam pan yn flwydd oed, cafodd gyngorion buddiol gan ei nain i gadw ar lwybrau rhinwedd. Pwy na wyr na fu y cyfrvw yn fodlon i'w gadw rhag cwympo dan draed temtasivnau mewn gwlad estronol. "Gair a ddywedir yn ei amser svdd fel afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig." medd y gwr doeth.

Dygwyd ei gorff i gartref ei ewythr. Robert O. Roberts, Half Way, lle yr hebryngwyd ei weddillion i orphwys yn nghladdfa berthynol i'w ewyrth yn y Mettowee Cemetery. Cymerodd yr angladd le ddydd Iau, Hydref y lOfed. Gwasanaetbwyd gan y Parch. W. O. Williams. M. C.. mewn modd hynod o effeithiol, gan gymwvso at feddyliau y gwyddfoddolion bwysigrwvdd y genadaeth a gynwysai yr afiechvd blin oedd yn ymweled yn ddyddiol a chynifer o gartrefi gan dori i lawr ddynion ieuainc yn anterth ei nerth.

Yn bresenol yr oedd llu mawr o gyfeillion o Poultney wedi dod i dalu y gymwynas olaf o barch iddo. Ein hyder yw y bvdd i'r Arglwvdd roddi profiad helaeth i'w weddw ieuanc, yn nghyd a'r brawd a'r chwiorydd yn eu galar o ddyddanwch dwyfol, a mesur helaeth o nerth i ymgynal dan y brofedigaeth.

Cymerodd Cyfrinfa Tforaidd Poultney ofal brawdol o'r ymadawedig yn yr angladd. Trefnwyd ganddynt y personau canlynol yn archgludwyr: Evan G. Williams, Morris M. Roberts, Morris R. Roberts, John Williams a David Charles Jones.
Gan D. O. Jones.

Y Drych ~ Tachwedd 21ain, 1918.