MOSES JONES. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yn yr ysbyty am 4:30 ddydd Mercher, Mawrth 20fed, bu farw Moses Jones, 416 Mary Street, yn 33 mlwvdd, wedi tymor o afiechyd poenus.Brodor ydoedd yr ymadawedig o Cwm Penmachno, Gogledd Cymru, a ganwyd ef yno Rhagfyr 9fed, 1884. Daeth i'r wlad hon oddeutu chwe blynedd yn ol, gan ymsefydlu yn Rome, a bu am dymor o bedair blynedd yn gwasanaethu fel llawofydd (mechanic) yn garage Massey Bros.
Yr oedd yn briod cyn ymfudo o Gymru, a goroesir ef gan ei briod a thri o blant bychain, Elizabeth K., Pelag C. a John Arvon, ac yn Nghymru gan ei rieni a brawd a chwaer.
Yr oedd yn aelod o eglwys M. C. Gymreig Rome. ac o gyfrinfa y Moose, ac iddo gylch eang o gyfeillion.
Cydymdeimlwn yn fawr a'r teulu yn eu galar.
Cyfaill.
Y Drych ~ Mawrth 28ain 1918.
MOSES JONES. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
At 4:30 o'clock on Wednesday afternoon occurred the death of Moses Jones, aged 33, 416 Mary Street. He had been out of health since last July with kidney trouble.He was born in Cwm Penmachno, North Wales, on December 9th, 1884. He was married in Wales and six years ago came to the United States and located in Rome. His family followed a few years later. He was an automobile mechanic by trade and was employed by Massey Brothers garage, 406 W. Court Street. He was a painstaking workman and an expert in this line.
He was a member of the Welsh Presbyterian Church and also Rome Lodge, No. 901, Loyal Order of Moose.
He is survived by his wife and three children, Elizabeth, aged nine years, Pelé, aged seven years, and John aged two years. He also leaves his parents and a sister and brother in Wales.
The family will have the sympathy of their many friends in their sad bereavement.
Rome Sentinel Thursday March 21st, 1918.
MOSES JONES. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
The funeral of Moses Jones which was held from his late residence, 416 Mary Street at 1:30 o'clock and at the Welsh Presbyterian Church at 2 o'clock Rev. R. T. Roberts, D. D., pastor, officiated. At the church the congregation sang Welsh hymns. There were many flowers including offerings from the Welsh Presbyterian Church and Rome Lodge, No 901, Loyal Order of Moose.The bearers were six members of the Moose, Edward T. Glavin, M. T. McMahon, Price Davies, John Reilley, William Moran and Michael O'Neill. The remains were placed in the Wiggins vault and will be interred in Wright Settlement Cemetery.
Rome Sentinel Saturday March 23rd, 1918.
MOSES JONES. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
'Mae'r frwydr drosodd, a'r gelyn yn orchfygwr.' Dyna gredasom nawn Sabboth y cyntaf o'r wythnos y bu iddo groesi 'y mor elwir marwolaeth.' Trist iawn ydoedd yr olygfa, er fod tawelwch y diwedd y nawn Sabboth hwnw yn rhoddi hamdden i'w briod ffyddlawn, ei gyfeillion caredig, a'r meddygon gofalus i eistedd i lawr i orphwys wedi gwneyd yr hyn oll a allent yn ei ffordd.Ac o bob tristwch nid oes un mor dorcalonus a hwnw pan y teimlir angeu yn agoshau yn araf deg. Ni fethodd lorio ei elyn erioed, ac ni wnaeth yn hanes ein cyfaill tawel a charedig hwn yn ei 33ain flwydd o'i oedran - yn 'mlodau ei ddyddiau.' Bu yn dyoddef am oddeutu wyth mis, heb allu i ofalu dros ei deulu, ond fe gafodd y gofal meddygol goreu allasai chwech o brif feddygon Rome ei estyn iddo.
Ni fu odid glaf erioed a gadd gymaint caredigrwydd cyfeillion yn ystod tymor ei wendid, a bu dyblu eu cymwynasgarwch adeg y diwedd y tu hwnt i fesur. Gyfeillion caredig, bydded i chwi dderbyn bendithion di-rif y Law Ddwyfol yn ad-daliad, oblegid chwi a estynasoch 'gwpanaid o ddwfr oer i ddysgybl yn enw dysgybl,' a rhoddi mewn gweithrediad y ffurf uchaf ar ddysgeidiaeth y Gwr 'a aeth i'n deddfle ni.'
Nawn Mercher, Mawrth yr 20fed, am 4:30, yr hunodd ein cyfaill yn un o ysbytai dinas Rome. Cafodd hamdden yn awr ac eilwaith yn ei ddyddiau olaf i adael ar ei ol dystiolaeth o'i ffyddlondeb i'r hyfforddiant a dderbyniodd yn moreu ei oes, a sicrwydd o'i ddymuniad am etifeddu y deyrnas nas gallai cysgod angeu bylu ei olygon rhag edrych ar ei mynyddau hyfryd yn dod i'r golwg yn awr yr ymddatod.
Mab ydoedd Moses Jones i John Jones, Votty, Cwm, Penmachno - un o golofnau byw yr achos yn y Cwm, a daeth i'r wlad hon tua chwe blynedd yn ol, a bu i'w briod a'i blant ei ddylyn dwy flynedd a haner yn ddiweddarach. Ymdaflodd yn egniol i ddeall y modur-gerbydau, a llwyddodd i'r fath fesur fel y'i ystyrid yn expert yn y linell hono. Tystiolaethai Massey Brothers, Court Street, yn ngwasanaeth pa rai y llafuriai cyn ei waeledd, ei fod yn expert mechanic, a'i symudiadau bob amser i bwrpas.
I bawb a'i hadwaenai yr oedd yn fawr ei barch ar bwys ei gymeriad tawel, a di-rodres. Yn ei ymroddiad i'w deulu a'i gartref yr oedd yn esiampl ragorol, a naturiol iawn i'w le ar yr aelwyd beri drych o dristwch i edrych drosto i'w briod a'i blant bach.
Yn ei angladd parchus gwelsom frawdgarwch gwir y Loyal Order of Moose, o ba un yr oedd yn aelod. Cymerasant ofal o'i weddillion yn ol eu dull a'u trefn; ac er mai hon oedd y weithred amlwg olaf o'u heiddo i'w brawd ymadawedig, nid oes ond hwy a'r weddw brofedigaethus yn gwybod am y cymwynasau dystaw lu y bu iddynt ddangos a phrofi eu teyrngarwch. Gwnaeth y Parch. Dr. R. T. Roberts, ei weinidog, sylawadau dwys-dyner am dano, gan beri i'w goffadwriaeth arogli'n bersawrus i'w garedigion a ddaethant i dalu y gymwynas olaf iddo.
Nid oes well dymuniad ar ran ei deulu bach na'r un a wnaeth y gwr parrchedig wrth eu cyflwyno i ofal 'Tad yr amidifad a barnwr y weddw;' ac yn awr dywull a phrudd y brofedigaeth, caffed Mrs. Jones nerth i gofio:
Er fod y nos yn hir
A'r wawr yn oedi'n mhell,
Daw eto wybren glir
A boreu llawer gwell:
A dal i guro wrth y ddor
Mae'r Hwn ostegodd ionau'r mor.
Bu ei ffyddlondeb i'w phriod yn ystod ei waeledd maith hyd y fynyd olaf yn dystiolaeth ddiamwys ddyfned oedd yn ei serchiadau, ac yn destyn edmygedd eu cydnabod oll. Caffed wobr helaeth mewn gweled ei thri phlentyn bach, Elizabeth 9 oed, Peleg 7, a John 2. yn tyfu i fyny yn swcwr a sirioldeb iddi.
Merch ydyw Mrs. Jones i Hugh a Martha Williams, Bryn Llaethog, ger Ceryg y Druidion, pa rai sydd yn awr yn fyw, yn nghyd a brodyr a chwiorydd, ac un brawd yn Kellog, Idaho. Derbynied yr oll ein cydymdeimlad dyfnaf, yn arbenig felly y weddw a'i phlant, a'i dad hynaws a charedig sydd yn yr Hen Wlad, a'i frawd a'i chwaer. Bydd yn dawelwch meddwl iddynt wybod na fu dim allasai llaw a medr dynol ei wneyd nas cafodd, a chafodd hefyd yn ol ei ddymuniad le bedd yn nghladdfa dawel Wright Settlement, lle y gorwedd llwch llu mawr o Gymry calongynes. Huned yntau bellach gyda hwy yn swn lleddfdonau'r awelon, a gosteg prudd bryniau unig y fro.
Gan D. Lloyd Davies, Utica, New York.