NELLIE JONES GROSS. NANTICOKE. LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.
Hydref 31ain, 1918, yn yr Emergency Hospital. Nanticoke. Pennsylvania, bu farw Mrs. Nellie Gross, gwraig Mr. Reuben Gross, o'r lle hwn.Ganwyd hi yn Rhiwen Cottage Ebenezer, Arfon, Gogledd Cymru, Awst 30ain, 1888. Pan yn ddwyflwydd oed ymfudodd i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn Slatington, Pennsylvania.
Yn 1908 ymunodd mewn cyfamod priodasol a'r hwn sydd yn awr mewn galar mawr ar ol gwraig ffyddlon a darbodus a mam dyner a charedig. Heblaw ei phriod gadawodd i alaru ar ei hol ddau o blant bychain yn nghyd a'i rhieni parchus, sef Mr. a Mrs. David Jones, gynt o Slatington. Hefyd un brawd William, a thair o chwiorydd, sef Mrs. Samuel Edwards ac Elsie o Nanticoke, a Mrs. Joseph Preso, Easton. Pennsylvania.
Ychydig fisoedd yn ol y symudodd Mr. a Mrs. Gross yma o Slatington, lle yr oeddynt mewn parch mawr. Yr oedd yr ymadawedig wedi cyflwyno ei llythyr aelodaeth eglwysig i Moriah, ond wele hi mewn byr amser wedi dyfod yma yn cael yr anrhydedd a'r hyfrydwch o ymuno ar eglwys orfoleddus fry. Yr anwydwst (influenza) oedd achos uniongyrchol ei marwolaeth.
Y dydd Llun canlynol cafodd angladd barchus, ac fe gollwyd llawer o ddagrau gwir hiraethus ar ol un arall o blant y cystudd mawr, ond credwn ei bod bellach mewn gwlad berffaith iach a diofid, ac yn canu byth heb dewi gan Moses a chan yr Oen.
Claddwyd ei gweddillion yn mynwent gyhoeddus y dref. Gweinyddwyd ar yr achlysur yn y ty ac yn y fynwent gan y Parch A. L. Rowe. Cyflwynwn y perthynasau oll i ofal ein Tad nefol, yr Hwn sydd gyfiawn yn ei holl ffyrdd.