RICHARD NICHOLAS JONES. MINNEAPOLIS, MINNESOTA.

Ni fu erioed gyfnod yn hanes y byd ag y mae cymaint o son am farw a'r blynyddoedd diweddaf hyn. Prin y ceir teulu yn unman nad ydyw angeu wedi talu ymweliad a hwy, ac wedi tori i lawr rai o'u hanwyliaid. Felly am y teulu anwyl hwn. Ymwelodd angeu a chymerodd un anwyl iawn, sef y tad y tro hwn.

Ganwyd R. N. Jones mewn anedd-dy o'r enw Ty'r Ynys, heb fod nepell o Lan Ffestiniog, Sir Feirionydd, a'r hwn sydd o fewn ergyd careg i'r enwog bwlpud Huw Llwyd o Gynfal. Y mae y teulu yn nodedig am eu hirhoedledd. Bu un brawd i'r ymadawedig fyw nes cyraedd yr oedran teg o gant a phedair; un arall yn bedair-ar-ddeg a phedwar ugain; felly bu farw yr hen frawd, R. N. Jones, yn gydmariaethol ieuanc, er ei fod yn saith a phedwar ugain.

Pan yn bur ieuanc, anfonwyd ef yn egwyddor-was at y diweddar Richard James, Ffestiniog, i ddysgu y gelfyddyd o of. Yr oedd yn angenrheidiol iddo roddi rhai blynyddoedd yn egwyddor-was, fel y byddai yn arferiad y pryd hwnw, ac wedi iddo ymryddhau o hyny, bu yn gweithio i'w hen feistr am rai blynyddoedd, hyd nes y symudodd R. James i fyw i Dolgellau. Symudodd yntau y pryd hwnw i Borthmadog, ac yma y cyfarfyddodd a chydmar ei fywyd, sef Ellen Jones, o'r lle a enwyd, a ganwyd iddynt wyth o blant, y rhai sydd wedi ac yn bod yn addurn i unrhyw dad a mam. Yn fuan ar ol ymsefydlu yn Porthmadog, cychwynodd fusnes ei hun. Yr oedd ganddo machine shop mewn cysylltiad a shop gofaint, a bu yn hynod lwyddianus. Dywedir ei fod yn grefftwr rhagorol, ac feallai fod ei lwyddiant i'w briodoli i hyny.

Yn 1882, penderfynodd droi ei wyneb am wlad y Gorllewin, a daeth i Montreal, Canada, a bu yn gweithio i'r Grand Trunk Railway. Yma eto enwogodd ei hun fel crefftwr a gweithiwr, a rhoddwyd dan ei ofal un o'r adranau mwyaf pwysig a chyfrifol sydd mewn lleoedd o'r fath. Yn 1884, daeth efe a'r teulu i'r ddinas hon, lle y gwnaeth ei gartref yn dymorol a chrefyddol byth er hyny.

Fel y crybwyllwyd, yr oedd wedi ei anfon i ddysgu crefft pan yn bur ieuanc, felly mae yn debyg mai pur ychydig o fanteision addysg a gafodd, y rhai oedd yn brin ac anfynych yn y parthau hyny o'r wlad y pryd hwnw. Dim ond addysg yr aelwyd a gafodd, a'r Ysgol Sabbothol; er hyny, yr oedd drwy ei yni a'i benderfyniad ei hun wedi llwyddo i ysgrifenu a darllen ac i gymeryd gofal o'i lyfrau ei hun nes y tyfodd rhai o'r bechgyn i wneyd hyny iddo.

Yr oedd yr eglwys Gymraeg yn Minneapolis yn agos iawn at ei galon; yr oedd ei holl serchiadau megys wedi ymglynu wrth achos yr Arglwydd, a bu yn hynod ffyddlawn hyd nes methodd a mwynhau pob moddion crefyddol, a byddai bob amser yn anog eraill, y rhai yr oedd tuedd ynddynt i esgeuluso i fod yn fwy ffyddlawn. Cwynai ychydig amser yn ol na fuasai ganddo fwy o ddawn i gyflawni gwaith yr Arglwydd. Pryd y dywedwyd wrtho, mae un o bethau y ddaear oedd dawn, ac mai "calon ddrylliog ac ysbryd gostyngedig" yr oedd y nefoedd yn ei werthfawrogi.

Mae ei briod wedi ei ragflaenu i'r byd tragwyddol. Dywedodd lawer gwaith fod ei lwyddiant i'w briodoli iddi hi, i raddau pell iawn. Yr oedd hi yn foneddiges bwyllog, synwyrol a doeth ei chyngor. Arferai fesur a phwyso pobpeth cyn ei dderbyn. Effeithiodd ei marwolaeth arno yn fawr iawn. Tua pedair blynedd yn ol, bu farw ei fab, Evan Madogydd, ac effeithiodd hyny yn ddwfn iawn ar yr hen wr, a gellid gweled ei dy o glai yn dadfeilio. Ni bu byth yr un fath ar ol hyny.

Y mae pedwar o'r plant wedi ei ragflaenu, sef Kate, Griffith, Richard N. ac Evan Jones (Madogydd), ac y mae pedwar yn fyw, sef William, Edward, John a Mrs. Jane Ellis.

Ar y l0fed o Ragfyr, cymerwyd ei weddillion marwol i Lakewood Cemetery i'w claddu, yn un o'r llanerchau mwyaf dymunol yn y lle, yn yr hwn le y mae ei briod a'i blant yn gorphwys. Darllenwyd a gweddiwyd yn y ty cyn cychwyn, yna awd i'r capel sydd yn y fynwent, a chaed gwasanaeth byr yno; ni chaniatai Bwrdd Iechyd i gynal cyfarfod yn y capel Cymraeg o herwydd yr haint ofnadwy sydd yn y ddinas. Y Parchn. J. T. Evans ac S. E. Prydderch oedd yn gwasanaethu. Annheg fyddai i mi orphen hyn o ysgrif heb grybwyll y caredigrwydd a'r gofal diflino ag y mae y plant wedi ei ddangos i'w tad oedranus, yn enwedig William a Mrs. Jennie Ellis. Mae yn ymddangos mai bywyd o lafur ac aberth sydd i Mrs. Ellis. Yn gyntaf oll, cymerwyd ei phriod yn wael a bu farw; yna cymerwyd ei mam yn wael am fisoedd lawer, a'r ddwy flynedd ddi- weddaf mae y tad wedi bod o dan ei gofal, ac nid peth bach oedd hyny. Mae hi wedi bod yn ffyddlawn i'r oll o honynt, ac wedi aberthu pob cysur ar allor cariad a chymwynasgarwch.
Gan Twr.

Y Drych ~ Ionawr 16eg, 1919.