ROBERT JONES. HUMBOULT PARK, CHICAGO, ILLINOIS.
Yn marwolaeth y brawd anwyl, Robert Jones, 2329 Newland Avenue, Chicago; mae yr adnod hono yn cael ei gwireddu, 'Canys yn yr awr ni thybioch y daw mab y dyn.'Ymrestrodd gyda llynges Canada Awst 13eg, 1917, gyda chyfaill iddo, sef Inigo Jones, Chicago, oni ni chawsant y fraint o fod gyda'u gilydd ar yr un llong; gweithia Inigo ar H. M. C. S. 'Festubert,' a Robert Jones ar H. M. C. S. 'Cartier,' er hyny, yr oedd y ddau yn dygwydd bod yn Halifax yn amser y difrod mawr hwnw trwy ffrwydriad. Daeth Robert oddi yno yn ddianaf, oni ni bu Inigo mor ffortunus, oblegid cafodd ei anafu yn ei ben Chwefror 16eg. Tra yn morio yn y Bay of Fundy ar noson oer a thymestlog rywfodd yn anffortunus golchwyd Robert Jones oddiar fwrdd y Hong i'r dyfnder, ac er chwilio yn ddyfal amdano am tua dwy awr methasant ddod o hyd iddo.
Mab ydoedd i Henry a Catherine Jones, Bryn Goleu, Llanbedrog, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon fis Ebrill, 1911, a gwnai ei gartref gyda'i frawd, sef Griffith Jones a'i briod, 2329 Newland Avenue. Bu yn aros am gyfnod yn Milwaukee, Wisconsin.
Saer coed ydoedd wrth ei alwedigaeth, a ganwyd ef Medi 24ain, 1892, yn Llanbedrog, Gogledd Cymru. Ar bwlpud eglwys Gymraeg Humboldt Park mae baner ac arni chwech seren yn cynrychioli chwech o fechgyn Cymreig o'r ardal yma sydd wedi aberthu pob peth er mwyn ymladd dros ryddid a chyfiawnder, seren Robert Jones erbyn hyn yn seren aur.
Cafwyd gwasanaeth coffadwriaethol iddo nos Sul diweddaf. Canwyd amryw o emynau gweddus i'r amgylchiad pruddaidd. Siaradodd y Parch. T. O. Jones yn hynod effeithiol. Mae cydymdeimlad cyffredinol a'i deulu yma a'r rhai syid yn yr Hen Wlad. Gadawodd i alaru ar ei ol dad a mam, un chwaer, Jane Jones, pedwar brawd, sef Henry, John a William yn Nghymru, a Griffith Jones yn Chicago, ac amryw o berthynasau eraill.
Nawdd y nef fyddo drostynt oll yn eu galar a'u hiraeth am un oedd mor hoff ganddynt.
Gan William Ishmael Jones.