ROBERT CLOSS JONES. SLATINGTON, LEHIGH COUNTY, PENNSYLVANIA.

Chwefror 15fed, 1918.
Mae genym y gorchwyl pruddaiid y tro hwn o gofnodi marwolaeth Robert Closs Jones, 146 Fifth Street, yr hyn gymerodd le oddeutu dau o'r gloch foreu dydd Llun, Chwefror lleg, ar ol dyoddef yn galed am ysbaid o amser gan y clefyd creulawn hwnw sydd mor adnabyddus a elwir yn pneumonia, a hyny er dychryn mawr a galar lawer i'w anwyl briod, yr hon sydd wedi ei gadael yn unig ac amddifad i alaru ei cholled ar ei ol, ac heb blant na pherthynasau i weinyddu cysur iddi yn yr amgylchiad chwerw hwn yn y wlad fawr hon. Ond os heb berthynasau, mae gan Mrs. Jones lu mawr o gyfeillion yn y dref hon a Danielsville, yn mha le y treuliasant y rhan fwyaf o'u blynyddoedd ar ol eu dyfodiad o Gymru tua 16 mlynedd yn ol; ac mae y cyfeillion hyn wedi arddangos hyny yn amlwg iddi yn y brofedigaeth lem hon.

Brydnawn dydd Iau, Chwefror 14eg, daeth nifer o honom yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'n hanwyl gyfaill caredig pan y gwasanaethwyd yn addoldy y T. C., ac ar lan y bedd yn Gymraeg i gyd gan y Parch. Robert L. Williams (A.), yn ddwys ac yn dyner ac effeithiol dros ben. Daeth nifer o gyfeillion Danielsville yn Gymry a Dutch i'r angladd, ac yn eu plith rai o aelodau y Knights of Golden Eagle, o ba un yr oedd yn aelod gwerthfawr er's llawer o flynyddoedd.

Da genym ddweyd iddo gael angladd parchus, ac yr oedd amryw o goronau gwerthfawr wedi eu dodi ar ei arch, ac mae hyny yn dweyd yn eglur fod gan y bobl feddwl o hono, ac hefyd fod ganddynt gryn lawer o barch iddo.

Un o ardal Foelwen, Dinorwig, oedd ein cyfaill, mab i David Jones (Tanybryn). Tebyg fod eich gohebydd galluog, Thomas L. Williams, yn ei adnabod ef a'r teulu yn dda.

Dyn tawel a pharchus o bawb ceid ein cyfaill, ac ni fyddai un amser yn dweyd gair yn wael am neb, ond y goreu am bawb. Galwyd ef ymaith cyn ei fod yn 48ain oed. Amddiffyn Duw fo dros ei briod yn ei galar.

Dymunir ar i bapyrau Cymru gofnodi hyn.
Cymro.

Y Drych ~ Chwefror 21ain 1918.