ROBERT D. JONES. FAIR HAVEN, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Ionawr 28ain. 1918.
Bu farw, Ionawr 12fed, y brawd dyddan Robert D. Jones (y teiliwr) yn ei gartref ar Maple Street. Ganwyd yr ymadawedig yn Llanberis, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1840, a daeth drosodd i'r wlad hon pan ond dwy-ar-bymtheg oed.

Yna aeth i Canada, ac yn y flwyddyn 1861 ymbriododd a Miss Matilda Nelson yn Melbourne, Quebec.

Ganwyd iddynt wyth o blant, o ba rai mae pedwar yn fyw. Ymfudodd o Canada 18 mlynedd yn ol i Vermont, a bu yn gweithio yn y chwarel hyd nes y bu iddo gyfarfod a damwain trwy dori ei goes yn chwarel Lloyd and Jones, North Poultney.

Ionawr 14eg awd a'i gorff i gladdfa y teulu, St. Anne Cemetery, Richmond. Quebec. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch. J. D. Owen (A.). Daeth tyrfa dda i dalu y gymwynas olaf i'r hen frawd. Wedi eu gadael mewn galar ar ol eu hanwyl dad mae pedair o ferched. Mrs. Joseph Morris, Hartford, Connecticut; Mrs. Thomas Roberts. Mrs. Margaret L. Barber a Miss Alice M. Jones yn Fair Haven. Vermont.

Hyn sydd yn rhyfedd. yr oedd y ddau ben frawd, sef Robert D. Jones a William Francis yn gyfeillion pur, a byddai y ddau yn cyfarfod bob dydd yn ngorsaf y trolley, ac yn cael hwyl trwy ddadleu ar wahanol ddygwyddiadau, yn enwedig yr amser dyrys presenol. Llawer o oriau difyr mae y ddau wedi ei dreulio gyda gilydd. Byddent yn cyfarfod yr un amser bob boreu, ac yn ymadael am 2:30, dyma fyddai diwedd pob sgwrs, "Cofia di fod yma mewn pryd yfory, Robert Jones." "O mi wna i, cofia ditha William Francis." Ond dyma y ddau hen ffrynd wedi myned mewn diwrnod i'w gilydd i gydgyfarfod mewn gwlad well ble na fy rhaid ymadael mwy. Hunwch yn dawel.

Y Drych ~ Ionawr 31ain, 1918.