ROBERT O. JONES. SLATINGTON, LEHIGH COUNTY, PENNSYLVANIA.

Darllenais gyda syndod yn un o bapyrau Allentown, hanes y ddamwain angeuol a ddygwyddodd ddydd Llun diweddaf i Robert O. Jones, Slatington, pan yn croesi y rheilffordd yn Walnutport, ar y ffordd adref o'i waith yn y Zinc Works, Palmerton.

'Rwyf yn cofio yn dda yr adeg i Robert ddod drosodd, oddeutu chwe blynedd yn ol o ardal Bethania, Blaenau Ffestiniog, lle y cafodd ei fagu gan ei ewythr a'i deulu, sef John Jones, yr hwn sydd ganddo fferm fechan yn y lle crybwylleiig. Daeth i Slatington at ei frawd, Owen J. Jones, yr hwn oedd yno rai blynyddau yn flaenorol, ac yn briod gyda Edith, set merch Ben Jones a'i briod. Mae yn ymddangos i'r plant golli eu rhieni pan yn ieuanc; enw ei dad ydoedd, Owen Jones, sef mab Ty-y-bonc, ger Talsarnau, Gogledd Cymru, ac mae ei ewythr, Robert, yn byw yno yn awr.

Yr oedd Robert yn briod gydag un o ferched Enoch Williams a'i briod ar Chestnut Street, Slatington, ac un plentyn ganddynt.

Yr oedd yn aelod dichlynaidd gyda'r M. C. yn Bethesda cyn dod drosodd, ac wedyn ymunodd ag eglwys Salem, M. C., Slatington, lle yr oedd yn hynod ffyddlawn. Mae ei briod yn chwaer i Mrs. Owen, priod y Parch. Richard J. Owen, Fair Haven, Vermont.

Y Drych ~ Ebrill 18fed 1918.


ROBERT O. JONES. SLATINGTON, LEHIGH COUNTY, PENNSYLVANIA.

Gwr ieuanc parchus a phoblogaidd yn cyfarfod a'i ddiwedd ar y rheilffordd.

Llanwyd pob calon yn ein tref a thristwch braw pan y deallwyd fod ein cyfaill ieuanc anwyl, Robert O. Jones, wedi cyfarfod a'i ddiwedd trwy gael ei daro yn ei ben gan y train ar y Central Railroad tra yn dychwelyd adref oddiwrth ei waith brydnawn dydd Llun, Ebrill laf, o Palmerton, Pennsylvania. Ymddengys iddo groesi o un llineil i un arall heb ddeall fod un perygl mewn golwg; fodd bynag, tra yn croesi oddiar ffordd un train daeth un arall heibio, ac fel y nodwyd tarawyd ef yn ei ben gan ei ladd yn y fan.

Ddydd Iau dylynol, daeth tyrfa luosog yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo. Yr oedd y gwasanaeth yn cael ei gynal yn nhy ei dad-yn-nghyfraith, Mr. Enoch Williams, Chestnut Street, y Parch. John W. Matthews (T. C.), Bangor, Pennsylvania, yn gweinyddu, a hyny yn ddwys ac effeithiol. Ar ol hyny awd a'i weddillion i dy ei hir gartref i Fairview Cemetery, a chafodd ei gladdu mewn lot hardd berthynol i Enoch Williams.

Gwasanaethwyd ar lan y bedd gan Mr. Matthews ac aelodau y Knight of Pythias, o ba un yr oedd yn aelod gwerthfawr. Yr oedd yr arch wedi ei orchuddio a blodau costus a phrydferth gan berthynasau a lluosog gyfeillion ein serchog gyfaill, ac os bu neb erioed yn haeddu ac yn teilyngu parch, yr oedd ein cyfaill yn un o'r cyfryw. Ie, ddarllenydd anwyl, bywyd da oedd ein cyfaill wedi ei fyw ar hyd ei oes yn llawn o berarogl hyfryd; felly gellid cyfrif bywyd prydferth fel yr uchod yn debyg iawn i flodau.

Ganwyd ein hanwyl gyfaill yn Tal-y-bont, Ffestiniog, tua 32 mlynedd yn ol, a bu farw ei rieni pan oedd efe yn bur ieuanc. Bum mlynedd yn ol, daeth i'r wlad hon ac ymsefydlodd yn y dref hon.

Ddwy flynedd yn ol, unwyd ef mewn glan briodas a Miss Mary Williams, merch i Mr. a Mrs. Enoch Williams, ac o'r uniad hapus hwn ganwyd iddynt fachgen bach anwyl a siriol, pa rai sydd wedi eu gadael i alaru a hiraethu ar ei ol.

Ar ddyfodiad ein brawd i'r wlad hon ymdaflodd ei hunan yn llwyr yn ngwinllan yr Arglwydd, ac mae colled fawr ar ei ol yn eglwys y T. C. yn Salem. Er mai cymeriad tawel ydoedd yr oedd yn gymeriad duwiol dros ben, ac mae pawb yn teimlo yn ddrwg ar ol ei golli o'n plith. Cafodd gladdedigaeth hardd a daeth amryw i'r angladd o Wind Gap, Bangor, Hazelton, Catasauqua, Allentown, Nesquehoning, Philadelphia, New York, a manau eraill; hefyd daeth y Parch. Richard W. Owen, B. A., a'i briod, o Fair Haven. Vermont, yma i dalu y gymwynas olaf iddo. Mae Mrs. Owens yn chwaer i'w briod galarus. Heblaw Mrs. Jones a'r bachgen bach gadawodd i alaru ar ei ol un brawd yn y dref hon, Owen Jones, ac un brawd yn yr Hen Wlad, yn nghyd a phum o chwiorydd, pa rai oeddynt yn meddwl y byd o hono.

Gellid ysgrifenu llawer yn rhagor am rinweddau ein hoffus frawd, oblegid yr oedd yn gymeriad mor rhagorol; yn Israeliad yn wir yn yr hwn nid ydoedd dwyll. Dymunir ar i bapyrau Cymru gofnodi yr uchod. Duw fyddo gyda'r teulu a'r perthynasau galarus yw dymuniad llawer heblaw.
Cymro.

Y Drych ~ Ebrill 18fed 1918.