ROBERT WILLIAM JONES. WEST PAWLET, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
MARWOLAETH ROBERT W. JONES.
Foreu Llun. Hydref, 7fed, 1918, bu farw Mr. Robert W. Jones, yn yr oedran addfed o 74. Mab ydoedd i Mr. a Mrs. William Jones, Tyn y Llwyn, Llanllyfni, Gogledd Cymru. Adnabyddid ei frodyr fel William M. Jones (Cyrus), a John W. Jones, yr hwn fu am flynyddau yn golygyddu y "Drych." Bu iddo bump o blant, o ba rai y mae tri yn fyw yn awr, sef un mab a dwy ferch : Mrs. William C. Jones, yn Glens Falls; Mrs. John W. Griffiths, yn West Pawlet; a Robert W. Jones, Granville, gyda pha un y cymerai yr ymadawedig ei gartref er's blynyddau lawer.Adwaenid y gwrthrych yn mhlith ei gydardalwyr fel un sydd wedi gweithio blynyddau meithion yn chwarelau West Pawlet. Anaml y gellid dweyd am neb a'i fywyd wedi ei arbeu, ac wedi cyfarfod a chymaint o ddamweiniau mor frawychus. Dywedir iddo gyfarfod a phedair o ddamweiniau. Torodd ei goes ddwy waith; bryd arall maluriodd ei ben; a phryd arall anafodd ei en, yr hon trwy lawfeddygiaeth gywrain a gynelid i fyny gan wifrau arian. Ond trwy y cwbl yr oedd ei iechyd corfforol yn gryf a da hyd nes y cafodd ergyd o'r influenza, yr hyn a brofodd yn angeuol iddo mewn ychydig ddyddiau.
Diameu fod lluaws o gyfoedion y diweddar frawd fuasai yn gallu ysgrifenu yn llawer mwy manwl am dano. Rhyfedd meddwl cymaint o ieuengrwydd oedd yn ei nodweddu. Y tro diweddaf i mi ei gyfarfod yr oedd yn hynod awyddus i gael gwaith, ac nid gwiw oedd ceisio ei berswadio ei fod wedi gwneyd diwrnod helaeth o waith. "Er i'w gorff grymu dan bwysau amser," yr oedd ei ysbryd yn llawn asbri i weithio.
Gyda golwg ar ei yrfa grefyddol a'i gysylltiadau eglwysig, yr oedd yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Peniel, Granville, ac yn addolwr cyson. Gallai fwynhau ei hun yn fawr yn swn Efengyl y Groes, ac ni fyddai yn brin o roddi mynegiant o'i hoffder o drefn yr iachawdwriaeth.
Diameu nad yn aml y cyfarfyddid a dyn ag allanolion crefydd yn blino mor ychydig arno fel ag i'w rwystro i gael mwynhad cyflawn o foddianau gras. Ni charai ymgechu gyda gwahaniaethau enwadol, na chyda chydmaru teilyngdod a rhagoriaeth y nail brcgethwr ar y llall. Ond yn syml a dirodres amcanai agor ei galon i ras Duw i rymuso ei gymeriad a chreu ynddo fwy o barch tuag at ei gydgreaduriaid. Gellid yn rhwydd ei adnabod fel Ysgrythyrwr cadarn. Gwnaeth ddefnydd mawr o'r Beibl, a byddai ei adnodau yn wastad yn amddiynfa iddo mewn pwnc o ddadl.
Erbyn hyn mae wedi cefnu ar y cyfryngau gyfranodd gymaint o gysur iddo, ac yr ydym yn hyderus ei fod heddyw yn mwynhau "pethau ysbrydol gyda sylweddoliad llawnach o'u gwerth iddo fel adnodau gwir y bywyd didranc. Gallwn estyn ein cydymdeimlad a'r oll o'r teulu, gan hyderu y bydd iddynt gael profiad newydd fod Duw yn gymorth hawdd i'w gael mewn cyfyngder.
Hebryngwyd ei weddillion i gladdfa'r teulu yn West Pawlet, Hydref y 9fed, a gwasanaethwyd gan ei weinidog, y Parch. W. O. Williams, Peniel. Yr archgludwyr oeddynt: Owen W. Jones, West Pawlet; William C. Williams. David O. Owens, Hugh Evans, Richard Tyson Roberts a Thomas M Roberts.
D. O. Jones.