THOMAS O. JONES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ar ol tua blwyddyn o gystudd trwm, bu farw Thomas O. Jones, New Hartford, yn nghartref ei chwaer, Mrs. Silas Helmer, Rhagfyr 3ydd, 1918.Mab i Mr. a Mrs. William O. Jones, New York Mills ydoedd. Ganwyd ef yn Tyn-y-Fawnog, Garndolbenmaen, Arfon, Gogledd Cymru.
Ymfudodd i'r wlad hon pan yn bur ieuanc hefo ei rieni yn y flwyddyn 1888, gan ymsefydlu yn yr ardal hon.
Ymunodd mewn glan briodas hefo Miss Jennie Edwards, tua 14 mlynedd yn ol.
Saer maen oedd wrth ei alwedigaeth, ac yr oedd yn adnabyddus iawn yn y cylchoedd a'r ardal hon a New Hartford. Yr oedd yn un o feddwl mawr, ac yn ddarllengar, ac yn feddyliwr mawr ar y Beibl a llyfrau da eraill; yn gynrychiolwr i gyfarfodydd ysgolion yr M. C., o eglwys Gymraeg, New Hartford, ac yn weithgar dros ben hefo yr achos.
Gadawodd i alaru ar ei ol heblaw ei rieni, Mr. a Mrs. William O. Jones, o'r ardal hon; pedair chwaer, Mrs. Thomas Williams, Mrs. R. W. Thomas, Mrs. Morris Owens, New York Mills, a Mrs. Silas Helmer, New Hartford; a phedwar brawd, sef John M. Jones a Humphrey Jones, New York Mills; William O. Jones, Baltimore, Maryland, a Robert R. Jones, Lake Keldrick, New Jersey.
Dydd Gwener diweddaf cafodd gladdedigaeth barchus iawn. Dr. John Davies, Utica, yn gwasanaethu yn y ty ac wrth lan y hedd. Canwyd amryw ddarnau pwrpasol iawn yn y gwasanaeth gan Mrs. Robert S. Owens, New York Mills.
Yr archgludwyr oeddynt Silas Helmer, Thomas Williams. Morris Owens a R. W. Thomas. Rhoidwyd ei weddillion i orwedd mewn llecyn dymunol yn Forest Hill, Utica. Yr oedd y blodau yn brydferth iawn, ac mae yma gydymdeimlad mawr a'r teulu yn eu galar.