WILLIAM R. JONES. WARRIOR RUN, PENNSYLVANIA.

Gyda thristwch y mae genyf i gofnodi marwolaeth y brawd anwyl William R. Jones, Warrior Run, yr hyn a gymerodd le brydnawn ddydd Llun, Hydref y 7fed, ar ol cystudd byr, dim ond wythnos.

Ganwyd yr ymadawedig yn Mhen-y-Groes, Llanllyfni, Gogledd Cymru, Mai 10fed, 1843. Cawn iddo yn lled ieuanc symud i'r Unol Dalaethau, gan ymsefydlu yn nghylchoedd y llechfaen. Yr oedd yn chwarelwr da, a threuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn y cyfeiriad a nodwyd. Symudodd yn ddiweddarach i gyfeiriad y glo, a gorphenodd ei yrfa ddaearol yn fwnwr.

Ni welais mewn henaint neb glanach, ag ystyried ei ddiwydrwydd mewn caledwaith. Yr oedd yn ddarlun byw o'r saint mewn hedd, yr hyn oedd brawf digonol na threuliodd ei fywyd hirfaith yn ofer. Yr oedd hefyd yn Gymro glan uniaith i gyd, ac ni freuddwydiodd ychwaith am chwysu pan yn dadgan o flaen cynulleidfa ei hoffder o honi. Cawsom lawer egwyl hwylus ag ef wrth adrodd am goncwest y Cymry ar faes y gyflafan. Tybiwn y byddai'n teimlo fel ugain oed wrth fywiogrwydd ei ysbryd. Yr oedd yn hen dderbynydd o'r "Drych," ac fel yn hawlio congl fechan i'w hanes am hyny.

Cafodd ergyd drom o'r parlys pan ar ei liniau yn anerch gorsedd gras. Gwelir felly ei fod wrth y gwaith goreu pan ddaeth yr alwad ei fod yn addfed i fywyd uwch. Mor naturiol yr oedd y Sul dan sylw, pan yn rhoddi ei hoff emyn allan i'w ganu:

"Dal fi fy Nuw, dal fi i'r lan,
'N enwedig dal fi lle 'rwy'n wan," a.y.

Cafodd fyned trwy ei weddi, ond cyn codi, yr oedd ei gryfder corfforol wedi darfod. Yn ei eiriau ei hun y boreu hwnw, gallwn sicrhau iddo fel Simeon gynt weled yr Iesu cyn ei farwolaeth. "Dacw Iesu; gyda'r lesu y bum i." O, ardderchog gyfaill yr Iesu, y mae hiraeth dan fy mron. na chawn gwrdd i ddweyd yr hanes ar y ddaear hon. Yr oedd ei ysbryd rhagorol, a'i onestrwydd yn y moddianau gras yn ein denu i'w hoffi. Yr oedd wedi teimlo lawer tro ei fod yn llaw ei Waredwr, ond cafodd wybod y boreu hwn ei fod yn sicr yn nghymdeithas yr Hwn oedd wedi ei garu mor fawr. Ac mae gwahaniaeth dirfawr rhwng 'teimlo' a 'gwybod.' Soniodd lawer am "long yr Iachawdwriaeth," ac heb ddysgwyl rywfodd, gwelwyd ef yn cael mynediad helaeth iddi, ac mae'n ddyogel o dwrf y byd ar y glanau draw.

Cefais y pleser o ddarllen amryw lyfrau da iddo yn ei henaint, a'r olaf, mi gredaf ydoedd ar y "Cartref dedwydd Gartref" (Home Sweet Home) am y ddinas ddysglaer hono, lle nad oes wylofain, dim dagrau; dim ocheneidiau, dim trallod. dim traed lluddiedig ar y palmant aur, dim newyn yno; ni bydd clefyd yno, dim claddedigaeth, neb yn marw, na'r un bedd; perffaith gariad yno, heb derfysg nac ymrvson, na'r un sain ddigofus, rwgnachlvd i dori ar heddwch. A hyn i barhau yn dragwyddol heb ofn iddo ddarfod, na neb yn ymadael nac yn ffarwelio; unwaith yno, yn ddiogel am bvth, gartref gyda Duw. Yr "Home Sweet Home." Gwelais ochenaid hiraethlon yn ei feddianu, gyda'r mynegiad o'i barodrwvdd i fyned yno. Gresyn na fvddai i'r fendith arosol yma fod yn meddiant eneidiau eraill sydd ar ol.

Yr oedd yn flaenor ffyddlawn gvda'r T. C yn Warrior Run, a llanwodd ei swydd barchus hyd y gallsai. Daeth torf lled dda yn nghvd i dalu y gymwynas olaf iddo, er fod clefvd blin yn lledaenu y wlad. Rhoddwyd ei weddillion i orphwys Hydref l0fed yn Hanover Green ger y lle, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. W. H. Williams, Warrior Run; Thomas L. Jones, South Wilkes-Barre. Y cludwyr oeddvnt, Joseph Jervis, David Morris, Thomas Thomas a William O. Jones.

Gadawyd mewn dwfn alar ar ei ol, ei briod. Mrs. W. R. Jones; ei ddwy chwaer oedranus, Mrs. Mary Anwyl, o Scranton. Pennsylvania a Mrs. Catherine Williams. o Buffalo. New York. Huned mewn heddwch yw fy nymuniad, hyd nes gwawrio boreu dysglaer y farn olaf, prvd y bydd seiniad yr udgorn yn codi'r saint ar eu newydd wedd.
Gan Wm. O. Jones.

Y Drych ~ Hydref 24ain, 1918.