WILLIAM SAMUEL JONES. WEST PAWLET, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Marwolaeth Mab Gwlithyn.

Gyda gofid dwys yr hysbyswn y newydd am farwolaeth y cyfaill ieuanc, William Samuel Jones, mab Lewis Jones (Gwlithyn) a'i briod, West Pawlet, Vermont. Cymerodd hyny le yn Ilion foreu ddydd Sul, ar ol byr gystudd, ac nid oedd ond ychydig fisoedd er pan yr oedd wedi dod yno i weithio. Unig blentyn y brawd Gwlithyn a'i briod oedd yr ymadawedig, ac yr oedd yn ddiweddar wedi ymuno mewn priodas a merch ieuanc o Americanes, a drwg genym ddeall ei bod hithau wedi ei chymeryd yn bur wael.

Bachgen ieuanc siriol a charedig ydoedd, ac yn weithiwr diwyd gyda phob achos da. Aed a'i weddillion i'w daearu i'r fan ag oedd yn anwyl ganddo, sef i West Pawlet ddydd Mawrth, a chymer yr angladd le heddyw (Mercher). Mae y cydymdeimlad dyfnaf a'i rieni ac a'i briod ieuanc yn eu mawr alar.
Humphrey Griffith.

Y Drych ~ Hydref 17eg 1918.


WILLIAM SAMUEL JONES. WEST PAWLET, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

PRUDD NODION O ILION, NEW YORK.

Hydref 13, 1918.
Dydd galar, wylofain ac ochain mawr yw y cyfnod hwn yma, fel trwy y wlad, gan waith angeu yn taro i lawr luaws o bob oed a chenedl trwy yr afiechydon, yr influenza a'r pneumonia, a hyny mor sydyn ac annysgwyliadwy fel lleidr yn y nos. Yn mhlith y rhai a symudwyd ceir amryw Gymry, a'r oll a wyddom am danynt o ddyffryn y chwarelau. Tarawyd ni a braw mawr y boreu yma gan y newydd fod William Samuel, unig fab Mr. a Mrs. Lewis Jones (Gwlithyn), West Pawlet, Vermont, wedi marw oddeutu saith o'r gloch nos Sadwrn, yn fuan iawn ar ol ei symud i'r ysbyty a sefydlwyd yma i gyfarfod a'r marwol glefyd gan Gymdeithas y Groes Goch.

Hefyd y mae ei briod ieuanc yn bur isel dan y dwymyn, a'r oll o'r tylwyth yr arosant dan eu cronglwyd yn orweddog, ag eithrio gwr y ty, heb neb arall i weini arnynt. Mae yno fel llawer cartref le difrifol.

Anfonwyd pellebyr yn gynar neithiwr at ei dad yn dweyd fed ei fab yn wael iawn; cychwynodd yn y fan, a chyraeddoedd oddeutu wyth o'r gloch y boreu, ond y newydd trwm a gafodd oedd fod William wedi marw er neithiwr. Bu farw yn hynod dawel a di-boen, i bob ymddangosiad. ac yn hollol ymwybodol. Mae cydymdeimlad llwyraf eu cydnabod a'r teulu bach yn y dydd blin.

Y geiriau cyntaf gawsom gan ei dad yn ei ddagrau llifeiriol oedd, "Yr Arglwydd a roddodd, a'r Arglwydd a gymerodd ymaith." Nerth a gaffont i lechu yn Ei fynwes glyd a dywedyd, "Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd." Nis gellir ymhelaethu heddyw.

Y Drych ~ Hydref 17eg 1918.