DAVID WALTER DAVIES. HANOVER, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.
Bu y Cymro adnabyddus, sef David Walter Davies, farw o ergyd o'r parlys, Hydref 24ain, yn 72 mlwydd oed. Bu farw yn Wilkes-Barre yn nhy ei hen gyfaill, Griffith Williams, yr hwn a fu yn ofalus iawn ohono yn ei saldra diweddaf, a gwnaeth bob peth trosto oedd yn bosibl, ond yr oedd y saeth wedi ei daraw mor drwm nad oedd gobaith gwellhad iddo. Claddwyd ei weddillion yn Wilkes-Barre.Mab ydoedd yr ymadawedig i Walter a Jane Davies, masnachwr yn Blaenau Ffestiniog, a daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1889 o Ffestiniog, gan ymsefydlu yn New York. Bu ar Wards Island fel gofalydd o'r bobl oedd wedi colli eu synwyrau, a bu yn ffortunus iawn yn ei waith am flynyddoedd. Bu fel gofalydd am ddwy flynedd ar bymtheg yn y Deaf and Dumb Institute, ac yr oedd wedi dysgu siarad a'r rhai oedd tan ei ofal, ac yr oedd yn barchus iawn gan bawb.
Tua blwyddyn a haner yn ol ymddiswyddodd o herwydd ei iechyd, ac mewn ysbaid aeth i Wilkes-Barre. Yr oeddwn yn reit adnabyddus ag ef. Yr oedd yn ddyn dyddorol iawn i fod yn ei gwmni a gwrandaw arno yn dweyd hanesion pethau oedd wedi bod dan ei sylw yn gofalu am y rhai anffortunus o dan ei ofal. Yr oedd yn ddyn uniawn ei ffordd ym mhob ystyr. Cofus genyf glywed ffrind yn gofyn iddo, "Wel Mr. Davies, yr ydych yn edrych yn dda iawn; sut yr ydych yn esbonio eich bod yn edrych mor dda?" "Wel," meddai, "wedi bod yn dda wrth fy nhad a mam ydwyf, ac yn wir, yr oedd wedi bod yn dda wrth bawb a ddaeth i gyffyrddiad ag ef.
Heddwch i'w lwch.
Efrogydd.
Y Drych ~ Tachwedd 14eg, 1918.
JOHN H. LEWIS. WILKES-BARRE, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.
Drwg genyf ddweyd fod y brawd John H. Lewis o'r lle uchod wedi marw Tachwedd yr 8fed, a chladdwyd ef ar y 12fed ger y dref hon.Gadawa ar ol briod a dwy chwaer, a pherthynasau yn yr Hen Wlad.
Gwasanaethwyd gan y Parchedigion R. R. Davies a Williams, Warrior Run. Yr oedd Mr. Lewis yn gysurus iawn ei amgylchiadau, ac yn aelod ffyddlon a gweithgar yn eglwys y T. C., Wilkes-Barre, a bydd colled ar ei ol. Heddwch i'w lwch.
Un o Corris, Meirionydd, ydoedd, ac yn ddyn canol oed. Efallai yr ysgrifena rhyw un yn helaethach am dano.