ROBERT L. LEWIS. GRANVILLE, WASHINGTON COUNTY, NEW YORK.

WEDI El LADD YN Y CHWAREL.

Gofid i'm calon oedd clywed fod Bob Lewis wedi cyfarfod a'i ddiwedd pan gyda'i orchwyl yn y chwarel yr wythnos o'r blaen. Yr oeddwn i ac yntau wedi myned yn gyfeillion mawr er's amryw flynyddau bellach, ac yr wyf yn teimlo yn hynod ddwys wrth feddwl na chaf mwy ymddyddan ag ef. Dyn tawel, call, oedd Bob; ie, dyn y cefais i fy siomi fwyaf ynddo o neb. Pan ddaeth efe a'i deulu i fyw i Granville o West Pawlet, yr oedd yn hollol ddyeithr i mi, a byddai yn pasio ar yr heol heb wneyd fawr sylw o honof, a daethym i'r syniad mai ei fawredd oedd yn peri hyny. O! syniad ffol! Yn mhen ychydig amser ar ol hyn, daeth i weithio gyda mi, a diolch i Dduw ei fod ef wedi dod, gael i mi gael y syniad priodol pa fath ddyn oedd Bob Lewis.

Buan iawn y deallais fy mod i wedi camsynied am dano, a'i fod ef yn hollol i'r gwrthwyneb i'r hyn y meddyliwn am dano. Yr oedd yn ddyn galluog, yn ddyn trwm yn mhob ystyr, ei natur mor ddystaw fel yr oedd (os rhywbeth) yn gwneyd cam a'i allu. Yr oedd yn fardd da mewn gwirionedd, yn un o oreuon y dyffryn, er mai pur anaml y byddai yn cystadlu, drwy hyny yr oedd allan o olwg y byd fel bwrdd. Gyda llaw, bu yn cwyno wrthyf amryw weithiau fod rhai o ohebwyr y "Drych" yn defnyddio ei waith yn eu gohebiaethau heb grybwyll ei enw.

Y mae ganddo amryw o ddarnau clasurol wedi eu gwneyd, a gobeithio y bydd i rywun ddod a hwy i oleuni dydd ryw sut neu gilydd; y maent yn werth eu cyhoeddi. Yr oedd hefyd yn llenor gwych, a bu yn ohebydd a goruchwyliwr i'r "Drych" pan yn West Pawlet, a bu yn gyson i'r "Drych" hyd y diwedd, a byddai yn canmol yr ysgrifau fyddai ynddo yn aral wrthyf.

Yr oeddym yn gweithio gyda'n gilydd yn niwygiad 1905. O! amser bendigedig gawsom yr adeg hyny, a hyn sydd yn gwneyd i mi geisio yn hyn o eiriau roddi blodyn persawr ar ei fedd, er coffadwriaeth am dano. Yr adeg hono, fel y mae yn wybyddus i amryw yn Granville, byddai y ddau gapel Cymreig yn cydgynull i un capel, a byddai hyn yn aml yn nghapel y T. C. gan ei fod y pryd hyny yn fwy na chapel yr Annibynwyr, a byddai Bob yn ffyddlawn iawn yn y cyfarfodydd, ac yr oedd wedi hoffi yn fawr y don "Rutherford" Rhif 182, ar y geiriau, "Bydd gweld gogoniant lesu," a.y. Byddai yn gwneyd i mi ganu hon yn aml iddo, er mwyn iddo ef gael ei dysgu, ac wedi iddo gael y don i'w feddwl, dyna lle y byddai yn ei chanu o hyd. Gyda llaw, os na chanwyd y don hon yn ei angladd, neu y geiriau hyn, yr wyf yn ofni nad yw ei ddymuniad wedi ei gyflawni.

Un noswaith yn ystod yr amser hyfryd yna, aeth Bob i lawr i ddechreu y cyfarfod gweddi un noswaith, a phan y gwelais ef yn myned troais ar unwaith i'r emyn, gan fy mod yn gwybod braidd yn sicr mai hono oedd ar ei feddwl, a dyna lle y bu yn troi a trosi y Llyfr Hymnau yn chwilio am dani, ac wedi peth amser, dyma fe yn codi ei ben i fyny i edrych a oeddwn yn bresenol, ac yn gofyn "Beth yw rhif yr emyn hwnw fyddwn ni yn ei ganu yn y chwarel o hyd, Tom?" Y pryd hwnw yr oedd yno hogyn ieuanc o Wyddel yn gweithio gyda ni, a chan fod pob sgwrs yn grefydd i gyd y pryd hwnw, yr oedd yn gwneyd gwawd o honom, ac yr oedd Bob yn bur hallt wrtho.

Yn mis Chwefror y flwyddyn hono, bu i'r Gwyddel ieuanc, cryf, hwn farw gyda dim ond rhyw dridiau o waeledd, ac ni fynai Bob nad oedd gan Ragluniaeth rywbeth i'w wneyd a'i symud oddi ar y ffordd mor ddisymwth am ei gabledd ar rai oedd yn ceisio molianu Duw "yn nyddiau Ei ddeheulaw," meddai ef. Yr wyf yn dymuno ar i'r gynulleldfa yn Jerusalem roddi un tro dros y don a'r emyn hwn er coffadwriaeth am dano.

Deallaf iddo gyfarfod a'i ddiwedd drwy lithro i lawr y domen tua 100 troedfedd, a syrthio gymaint a hyny wedyn i'r twll islaw. Dwy flynedd i ddydd cyntaf o Ebrill nesaf, cafodd ei frawd William L. ei ladd ar y domen chwarel yn West Pawlet, fel y dywedai efe ei hun y pryd hwnw, "damwain heb ddim galw am dani ydoedd hono," ond beth am hon eto ? Ei frawd Lewis a gafodd ei ladd yr haf diweddaf gyda trolley car yn agos i Fair Haven. Vermont.

Y mae ein hoffus gyfaill wedi myned, a'i ysbryd wedi ehedeg at yr Hwn a'i rhoes, a dyna'r unig gysur sydd gan y teulu galarus hwn i ymorphwys arno. Bydded i Dad yr amddifad, a Barnwr y weddw fod yn amddiffyn iddynt weddill o'u hoes, a dymunaf gyfiwyno fy nghydymdeimlad llwyraf a'r teulu yn eu galar a'u profedigaeth lem o golli un oedd anwyl a charedig.
Gan T. L. Williams, Hastings-on-Hadson, New York.

Y Drych ~ Ionawr 17eg, 1918.


ROBERT L. LEWIS. GRANVILLE, WASHINGTON COUNTY, NEW YORK.

Chwefror 12fed, 1918.
Gofidus ac annaturiol iawn i mi ydyw gorfod rhoddi y gair 'Diweddar' o flaen enw fy nghyfaill hoff, R. L. Mae yn anhawdd sylweddoli'r ffaith, wedi bod yn hir gyd-deithio drwy yr anial garw yn rhwymyn cyfeillgarwch er yn blant. Teimlaf yn ddyledswydd arnaf i ysgrifenu ychydig adgofion a manylion am dano i'w hoff 'Ddrych,' y bu yn deyrngarol iddo am flynyddau lawer, fel goruchwyliwr a gohebydd, ac hefyd er mwyn ei deulu trallodus, a'i ffryndiau lu o bob ochr i'r Werydd.

Ganwyd Robert L. Lewis yn y Ty Isaf, un o ryw dwr o dai, a elwid Llwyn-y-fynwent, ryw filldir i gyfeiriad Towyn o bentref Abergynolwyn, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, yn Ionawr 14eg, 1862 (fel y cawsom ei oedran gan y teulu) yn fab hynaf o saith o blant; pedwar o feibion a thair o ferched i Lewis a Catherine Lewis. O'r cyfryw nid oes yn aros ond y tair merch, Jane, Mrs. John Tibbot yn Machynlleth; Catherine, Mrs. Hugh Lewis yn Ffestiniog, Gogledd Cymru. Bu ei frawd Dafydd (Dewi Idris) farw yn ei hen gartref tua 28 mlynedd yn ol, yn llanc ieuanc glandeg, ac yn fardd swynol. Yr oedd yn dod drosodd yma gyda mi ar yr agerlong Etruria, Gorphenaf 1886, ac mewn llai na thair blynedd dychwelodd o herwydd afiechyd ei dad, yr hwn a fu farw yn fuan ar ol ei gyraeddiad adref, ac yn annysgwyliadwy gafaelodd rhyw afiechyd ynddo yntau, ac yn mhen llai na blwyddyn yr oedd Dewi Idris wedi mynd adref.

Cyfarfyddodd ei frawd William a damwain angeuol gyda Griffith Hughes, yn un o chwarelau y Rising and Nelson Slate Company, oddeutu 3 o'r gloch y prydnawn. Awst 25ain, 1917, cyfarfyddodd ei frawd Lewis a'i ddiwedd ar y llinell drydanol rhwng Poultney a Fair Haven, Vermont. Bu farw yn yr ysbyty yn Rutland.

Yn blygeiniol foreu dydd Mawrth, Ionawr 8fed, 1918, yn un o chwarelau y Norton Brothers, gerllaw Granville, y daeth diwedd i yrfa ddaearol y cyfaill R. L. Fel y crybwyllwyd yn flaenorol yn y 'Drych' yr oedd y shanty y gweithiai ynddi wedi ei gosod ar ben hen dwll oedd wedi ei weithio allan, fel i fod yn hwylus i daflu y rwbel iddo. Yr oedd yn foreu llithrig iawn, a thra yn taflu y rwbel y tu ol i'r shanty, llithrodd dros yr ymyl ac ar hyd y domen i waelod y twll. Wedi ymgyngoriad y meddygon, penderfynwyd ei gludo i'r ysbyty yn Rutland, ond yn ofer, gan i'w ysbryd ymadaw a'r corff ganol dydd dranoeth at Dduw yr hwn a'i rhoes.

Dygwyd ei gorff i'w gartref yn Granville, a phrydnawn Sadwrn dylynol, daeth tyrfa luosog yn nghyd i'w gynhebrwng yn Maes Macpelah'r teulu. Gweinyddwyd gan y Parchn. T. J. Jones (A.), a W. O. Williams (M. C.), yn nghyd a Chyfrinfa Iforaidd Llywarch Hen yn y ty, y capel a glan y bedd. Yr archgludwyr oeddynt: David O. Jones, John A. Hughes, Robert H. Hughes, Robert W. Roberts, Granville; John P. Owens a William D. Williams, West Pawlet.

Cafodd angladd anrhydeddus, er fod llu mawr o'i ffryndiau wedi eu gwasgaru o'r ardal yn ddiweddar gan amgylchiadau, ac felly yn analluog i fod yn bresenol. Yr oedd yn ei fedd er's dyddiau cyn i mi glywed am ei farw, er wedi clywed am y ddamwain, a'i ddwyn i'r ysbyty, ac yn gobeithio ei fod am gael byw, ond trodd y gobaith yn siomiant trist.

Yr oeddym ein dau yn gyfeillion a chyfoedion er dyddiau maboed; minau wedi'm geni ychydig i fyny'r bryn, mewn bwthyn o'r enw Maesygro. Yn y ty agosaf iddo yr oedd ei ewyrth, Robert Lewis a'i deulu. Mae tri o'i feibion, William, Daniel a Dafydd yn byw yn Blaengarw, De Cymru. Yn lled foreu yn ein hoes, symudodd ein teuluoedd i'r pentref i fyw, ac yno y cyd-dyfasom yn nghymdeithas ein gilydd, ac yn nghanol pob manteision crefyddol a llenyddol o dan athrawon da a duwiol, ac ar aelwydydd crefyddol. Nid ar y manteision mae'r bai na buasem wedi gwneyd llawer mwy o ddaioni o hyny hyd heddyw.

Pan yn bur ieuanc syrthiodd R. L. a'i frawd Dewi mewn cariad a'r awen, a buont wrthi yn ddyfal ddydd a nos yn astudio nes dod yn gynganeddwyr gwych. Cawsom ninau gyda Tom a Bob, meibion Owen Ellis, y gof, y fraint o fod yn ddysgyblion iddynt; ac er na wnaed fawr o feirdd o honom, cawsom fwynhad, pleser a bendith yn yr ysgol gyda'r nos yn eu cymdeithas, wrth ddarllen, myfyrio a dadleu ar wahanol bynciau barddonol a duwinyddol. Yr oedd yr Aber y cyfnod hwn yn nythle i feirdd o fri, megys Gwynedd a Berw, Namorydd a Ieuan Meuryg, Idwal Mai, Dewi Gwernol, Ioan Egryn, Dewi Idris ac R. L. gyda Gwilym Dyfi yn gweithio yn chwarelau Brynyreglwys, ond yn byw dros y mynydd yn Penal.

Yr oedd Gwilym yn canu clodydd ei 'gain lwyswedd gan Lizzie' yn wythnosol ar ddalenau 'Llais y Wlad,' tua'r flwyddyn 1883 neu '84, a bu yn foddion i gynyrfu awen yr hen lanc, Owen Dinorwig, ac aeth yn ddadl farddol boeth am wythnosau lawer. Yr oedd beirdd yr Aber, ac yn eu plith R. L., yn cymeryd plaid Gwilym a phriodas. Cafwyd englynion da a chywrain ar bob ochr, a llawer o hwyl ddiniwed. Gallem oddi ar y cof ysgrifenu llawer o'r cyfryw, ond ni chaniata gofod. Mae y mwyafrif mawr o'r beirdd yn y byd tu draw i'r bedd heddyw.

Yn ngwanwyn y flwyddyn 1885, daeth ein gwrthrych drosodd i'r Amerig, a bu yn gweithio yn y glo yn Wilkes-Barre am tua blwyddyn cyn symud i West Pawlet. Yr oedd yno yn croesawu ei frawd Dewi a minau yn Gorphenaf, 1886, a buom yn cydfyrddio am rai blynyddoedd. Yn 1893, ymunodd mewn priodas a Miss Lizzie Pritchard, merch i Mr. a Mrs. Thomas Pritchard, Caerhydau, West Pawlet. Medi, 1902, symudodd y teulu i Granville i fyw, ac yno y bu hyd ddydd y gwahanu. Ar ol hyn ni chawsom ei gymdeithas ond yn achlysurol er ein colled.

Yr oedd R. L., fel yr adwaenir ef yn Nghymru ac yma gan ei gydnabod, yn gymeriad tlws, yn meddu ar lawer o nodweddion dymunol, yn wylaidd a gostyngedig o ysbryd; hoffai fyw o'r golwg, yn yr encilion, yn fwy nag yn y cyhoedd, ac o'r herwydd, collodd cymdeithas yn yr amgylchoedd y bu yn ymdroi ynddynt lawer o'i wasanaeth a fuasai o fendith. Fel cyfaill, yr oedd yn bur a gonest; nid oedd yn un o'r rhai hawddaf i fyned i'w gymdeithas; ni roddai agoriadau ei galon a'i gyfrinach i bawb a ddeuai heibio; ond wedi cael prawf ar onestrwydd ac ymddiriedaeth y person, cai fynediad helaeth i mewn i loches cyfeillgarwch. Yr oedd yn llenor a bardd da o'r dosbarth gweithiol. Cyfansoddodd lawer o englynion tlws a chywrain, yn ogystal a darnau yn y mesurau rhydd. Enillodd amryw wobrwyon fel bardd a llenor, ond ychydig gystadleuai.

Un o'r pethau diweddaf a welais o'i waith ydoedd penillion ar ol ei frawd William yn y 'Drych.' Cledd i'w fron fu claddu ei frawd, ac nid oedd yr archollion wedi gwella pan gafodd friw arall yn angeu disyfyd ei frawd Lewis. Y tro diweddaf y cefais ymgom ag ef, gofynwn iddo a oedd yn barddoni llawer yn awr. 'Dim wir, Coetmor,' meddai, "rwyf wedi troi i ddarllen a myfyrio mwy am y pethau sylweddol a pharhaol, ac yn neillduol y Beibl. Bu yn beirniadu droion mewn cyrddau ac Eisteddfodau lleol, a bob amser ei farn yn onest, yn ddestlus ac addysgiadol. Meddai ar lawysgrif dlos; yn gampwr am lythyr o bob natur; pleser mawr fyddai darllen ei lythyrau. Diau ei fod yn fwy galluog i gyflwyno ei feddwl trwy'r ysgrifell, na thrwy gyfrwng y tafod. Yr oedd yn ddarllenwr mawr er yn blentyn, ac yn meddu ar y gallu i droi yr hyn a ddarllenai, yn faeth ac eiddo i'w feddwl. Ni cheid dim sothach ac us yn mysg ei lyfrau, ac o'r herwydd ni cheid dim ynddo yntau. Mae y math o fwyd yr ymbortha y meddwl arno yn profi ansawdd a gwerth y cyfryw.

Nid oedd yn un y gellid ei ddarllen, a'i adnabod ar yr olwg gyntaf, ond po fwyaf fyddid yn ei gymdeithas, hoffid ef yn fwy o hyd, a gwelid mwy o'i fawredd. Un gwael am addurno ffenestri ei ffrynt ydoedd. Nid fel ambell fasnachdy, a'i bethau goreu yn yr amlwg, ac yn peri siomiant ar ol myned i mewn. 'Roedd yn rhaid cael mynediad helaeth i mewn i ddirgel ystafelloedd cysegr santeiddiolaf ein cyfaill cyn gweled a theimlo gwerth ei gymeriad. Yr oedd ganddo ystoc dda ar law ar gyfer pob galw. Casglai fwy i mewn i gronfa ei feddwl nag a roddai allan. Gwendid llawer yw ceisio rhoddi a chyfranu mwy nag a feddant wrth siarad ac ysgrifenu.

Yr oedd yn grefyddwr cyson a ffyddlon, ond anhawdd ei gael i waith cyhoeddus. Yr ewyllys yn barod, ond y cnawd yn wan. Teimlai bob amser fel Eben Fardd mai

'Mewn cyfeillach swbach sad,
A'i duedd at wrandawiad'

ydoedd. Yr oedd yn aelod byw yn eglwys Jerusalem (A.), a bu felly yn Bethel, West Pawlet ac yn Nghymru. Er yn Annibynwr selog, yr oedd yn ddigon llydan ei ysbryd i fwynhau'r Efengyl a'i bendithion, gan IudÚew neu Roegwr, enwaediad neu ddienwaediad. Fel priod a thad yr oedd yn deilwng o'r enw; yr oedd y parch a'r anrhydedd a roddid iddo ar ei aelwyd yn profi hyny; fel y dywedent eu bod bron a'i addoli. Treuliai y rhan fwyaf lawer o'i oriau hamddenol gyda'i deulu a'i lyfrau, a pha ryfedd y teimlir yr unigedd mawr yno. Lle R. L. sydd yn wag, ac nid oes ond Un all ei lanw.

Perthynai i'r Odyddion, Friendship Lodge, No. 45, I. O. O. F., West Pawlet, ac i gyfrinfa Iforaidd Llywarch Hen, Granville.

Gadawodd yn eu galar o'i gilio, ei briod a dwy ferch: Sarah, yn 18 oed, a Grace yn 14 oed, heblaw y chwiorydd a nodwyd; a nith yn Granville, sef Mrs. John K. Williams, gyda gwragedd a phlant ei frodyr, William a Lewis. Hun dawel a heddwch i ti hen gyfaill yn dy dy o glai, fel y buost byw hyd ganiad udgorn Duw, pan bydd dorau beddau y byd ar un gair yn agoryd i'w blant gael mynediad helaeth i mewn i'w tragwyddol gartref.

'Dedwydd gartref y Duwdod - a'i luoedd
Gwlad lawen ddibechod;
Aur dalaeth, cariad diwaelod
I'w mwynhau byth, dim bedd mewn bod.'
Namorydd.

Y Duw a wasanaethaist, ac a'th gynaliodd i gario'th groes, a fyddo yn bob peth i lanw angen dy deulu hoff a'th berthynasau yn y dyfodol, nes uno o honynt yn y gymdeithas fawr na bydd angeu na dim o'r cyfryw all ei thori ydyw dymuniad calon dy hen gyfaill.

'Finau raid yn fy nhro
Dy ddylyn doei a ddelo.'

Gan John C.

Y Drych ~ Chwefror 28ain, 1918.