ROBERT W. LEWIS. GRANVILLE, WASHINGTON COUNTY, NEW YORK.
Brydnawn dydd Llun. Medi y 9fed. 1918, bu farw yr hynafgwr parchus, Mr. Robert W. Lewis, yn ei gartref ar Potter Avenue, wedi cyraedd yr oedran o 73.Brodor ydoedd o Waenfawr, Gogledd Cymru, ac yn fab i William ae Elizabeth Lewis.
Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1866, gan ymsefydlu yn Middle Granville, ac wedi iddo dreulio rhai blynyddoedd yno, ymbriododd a Miss Sarah Jones, merch Mr. Ebenezer M. Jones, o'r un lle. Ganwyd iddynt ddeg o blant, o ba rai y mae naw yn fyw. Dymunol oedd gweled fod y plant oll mewn cyraedd galw yn nydd y brofedigaeth. Caredig iawn fu'r awdurdodau milwrol yn ngwersyllfa Meade i ganiatau gollyngdod i'r mab Robert, i ddod i ymweled a'i dad. Tarawiadol iawn oedd ei weled yn ei wisg filwrol wrth erchwyn gwely angeu ei hoffus dad yn gweini iddo hyd y mynydau olaf.
Adwaenid y gwrthrych gan fwyafrif o drigolion cylch y chwarelau yn Vermont, fel un sydd wedi gwario rhan helaeth o'i oes i agor chwarelau. Canfyddwyd fod diwydrwydd yn un o'i nodweddion amlycaf yn yr ymgais hon. Ni fu yn brin o roddi llafur caled ac oriau meithion mewn ymdrech i ddod o hyd i eiddo fuasai yn coroni un o'i ddelfrydau uwchaf, yn ogystal a llesiant yr ardal. Wedi oes faith o ymchwil gonest, ni ellir dweyd i ffawd wenu yn helaeth arno, ac ychwaith, ni ellir dweyd iddo golli cymaint a lluaws a wnaeth lai o ymchwil neg ef.
Yr ymgais olaf a wnaeth ydoedd ar dir a adwaenir fel Pine Hill, pryd y sicrhaodd chwarel a ystyrir gan luaws o wyr profiadol yn un a rhagolygon addawol iddi. Bu ei afiechyd blin yn trethu yn drwm ar ei ysbryd, pan yn gyfryw nas gallai fyned i olwg yr eiddo. Ond, nid rhyfedd hyny, pan ystyriwn y llafur a roddodd yn ei anturiaeth ar y lle. Bu Rhagluniaeth yn dyner wrtho; cafodd fyw i weled yr eiddo yn dwyn cynyrch sylweddol a nifer o weithwyr yn ei wasanaeth.
Nid un oedd ein gwrthrych gyflwynodd yr oll o'i amser a'i sylw i'r chwarel. O, na, ni fyddarwyd ei glustiau gyda swn morthwyl, ac ebill, fel ag i'w luddias i glywed llais dyledswydd yn y cylch crefyddol. Y mae genym yn eglwys (Jerusalem) gyfrif uchel o hono fel Cristion ffyddlawn, gweithgar a chywir. Nid yn aml y cyfarfyddiad ag un yn meddu gwybodaeth mor gyffredinol ag ef o'r Beib1. Nid gwybodaeth am y Beibl ydoedd ei eiddo ef ychwaith, ond gwybodaeth o'r Beibl ei hun. Nid oedd efe yn ddyeithr o lawer i athrawiaethau y grefydd Cristionogol. Ei hoff faes oedd duwinyddiaeth. a gallai yn rhwydd dreulio oriau dyddorol ac addysgiadol ar bynciau o athrawiaeth; ond nerth mwyaf ei gymeriad ydoedd y medr cyfrin i roddi mynegiant o egwyddorion Cristionogaeth yn ei fywyd syml a dirodres.
Bu ei ffyddlondeb a'i wybodaeth eang yn fantais fawr iddo i fod yn athraw defnyddiol yn yr Ysgol Sabbothol, i'r hon y bu yn ffyddlon trwy y blynyddoedd. Byddai yn ei ogoniant yn yr Ysgol a'r cyfeillach grefyddol. Rhoddai ei bresenoldeb ynddynt pan oedd goleuni ei lygaid yn rhy wan i oleuo ei lwybrau. Beth bynag am y mwynhad a gaffai, yn sicr y mae ei ddidwylledd a'i symlrwydd wedi gadael argraff ddofn a pharhaol, ni a gredwn, ar y saint sydd o'i ol.
Chwith yw meddwl na chawn yma ei gwmni mwy, nac ychwaith wrando ei brofiadau melus a'i gynghorion buddiol, ond gallwn ymgysuro wrth gredu ei fod wedi ei waddoli yn hael a gras y nef, ac y gallai wvnebu dydd barn fel ag y bywiodd ddydd gras.
Haws yw canu Iesu'r bywyd,
Wedi canlyn Iesu'r daith.
Hvderwn yn weddigar y bydd i'r teulu trallodus gael profiad newydd o dangnefedd Duw a'i ddyddanwch dwvfol. Hyd nes y ceir esboniad cyflawn ar droion dyrys rhagluniaeth:
Dim ond i ni dawel aros.
Goleu geir ar bethau cudd:
Melus fydd trallodion hirnos.
Pan geir arnynt oleu'r dydd.
Ddvdd Iau, Medi y 12fed, cymerwyd ei weddillion marwol i dy ei hir gartref i fynwent y teulu yn Middle Granville. Cymerwyd gofal yr oll o'r gwasanaeth gan y Parch. W. O. Williams. Peniel (M. C.) yn cael ei gynorthwvo gan Dr. Newton. Yr oedd lluaws o ddyeithriaid yn bresenol yn yr angladd. ac yn eu plith. Mr. Thomas F. Williams. Middle Granville, a'r teulu: Mr. Harry Draffin, Leominster. Massachusetts: Mr. a Mrs. John L. Roberts, o Schenectady. New York. Yr arch-gludwyr oeddynt: Owen Hughes Middle Granville; Rees G. Williams. William Closs, Evan J. Williams. Robert O. Roberts. David O. Jones.
Gan D. O. Jones.