THOMAS LEWIS. HANOVER, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.

Foreu dydd Nadolig, ymadawodd Mr. Thomas Lewis, South Market, am y byd tu draw i'r llen, wedi byr gystudd o'r pneumonia.

Ganwyd Mr. Lewis yn Ebenezer, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1879; felly yr oedd yn 40 oed pan y bu farw.

Mab ydoedd i Mr. a Mrs. John J. Lewis, o'r lle uchod, a deallwn eu bod yn arfer cadw ty y capel perthynol i enwad parchus y Wesleaid yn y lle uchod.

Yn 1901, ymunodd Mr. Lewis mewn cyfamod priodasol a merch ieuanc, landeg yr olwg a rhinweddol ei buchedd, o'r enw Miss Grace Jones, o Brynsiencyn, Sir Fon. Gogledd Cymru, a bu yr undeb hwn yn un perffaith hyd nes i angeu, datodwr pob rhwymiad daearol, ymweled a'r teulu ar y dydd a nodwyd.

Yr oedd rhieni Mrs. Lewis yn arfer cadw stor bwyd, yr hon a elwid yn "Siop y Bull."

Tua 13 mlynedd yn ol, ymfudodd Mr. Lewis a'i deulu i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn Slatington, Pennsylvania, pa le y buont yn byw am wyth mlynedd, mewn parch mawr. Yna symudasant i Nanticoke, lle y maent eto mewn parch mawr. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod ffyddlon yn eglwys Moriah. Yr oedd yn Ysgrythyrwr goleuedig, ac yn dwyn mawr sel dros yr Ysgol Sabbothol, a bydd ei le yn wag iawn.

Y dydd Sadwrn canlynol i'w farwolaeth, cafodd angladd parchus. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan hen gyfeillion mynwesol iddo, sef y Parchn. I. T. Williams, Scranton, a J. M. Pritchard, Wilkes-Barre. Claddwyd yn Hanover Green Cemetery. Heblaw cyfeillion, gadawodd i alaru ar ei ol, ei weddw, a thri o blant, John, Beatrice ac Elfed. Cysured Duw hwy oll.

Y Drych ~ 23ain Ionawr 1919.