MRS. CHARLES MORRIS. POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Foreu ddydd Gwener, y 10fed cyfisol, tarawyd yr ardal hon gan fraw a dychryn drwy y ffaith brudd fod Mrs. Charles Morris wedi gadael y fuchedd hon yn dra sydyn o ddolur y galon. Nid oedd yn teimlo yn dda er's misoedd, ond yn ei dyddiau olaf ymddangosai fel ar y ffordd i wellhad.Ganwyd Mrs. Morris yn Bethesda. Arfon, Gogledd Cymru, Mawrth 20fed. 1854. Pan oedd hi ond dwy flwydd oed, daeth y teulu i'r wlad hon gan sefydlu yn Middle Granville, New York. Pan yn ddeunaw mlwydd oed, ymunodd mewn glan briodas a Charles Morris. Ganwyd iddynt bump o blant, pedair o ferched a mab. Mae y mab a thair o'r merched yn fyw ac mewn dwfn alar ar ol mam oedd yn llond yr enw, sef Mrs. W. M. Jones. D. C. Morris. Mrs. E. M. Jones, a Mrs. E. W. Schermerhoin, yr oll yn Schenectady, New York.
Bu ei phriod a hithau yn cartrefu yn Maine am gyfnod, lle yr oedd Mr. Morris yn dal cysylltiad a'r chwareli. Daethant yn ol drachefn i Middle Granville, ac oddi yno symudasant i South Poultney, ac oddi yno i'r lle hwn yn 1896.
Cafodd brofedigaethau llymion yn ei bywyd. Collodd ei merch hynaf, Mrs. Morris Hughes, yr hon oedd wraig ieuanc hynaws a charedig. Wyth mlynedd yn ol, collodd ei phriod, oedd mor ofalus o honi hi a'r plant, ac yn ddyn cymeradwy drwy y dyffryn i gyd. Yr oedd Mrs. Morris yn meddu cymeriad uwchraddol mewn llawer ystyr. Yr oedd yn fedrus mewn amryw gyfeiriadau, a chanddi galon eang a thyner, yn barod bob amser i weini ar y claf ac i gynorthwvo yr angenus.
Byddai ei chartref yn agored bob amser, ac nid oedd terfyn ar ei charedigrwydd. Yr oedd yn un o aelodau hynaf yr eglwys Gymreig yn y lle hwn, ac yn ffyddlon hyd y gallai, ar y blaen bob amser gyda'i chyfraniadau. Yr oedd yn aelod hefyd o gyfrinfau y Rebekahs a'r Women's Relief Corps, a'i gwasanaeth yn werthfawr ganddynt.
Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol brydnawn y dydd Llun dylynol yn yr addoldy Cymreig. y Parchn. J. W. Morris. W. O. Williams, Granville, a W. E. Evans, Mankato. Minnesota yn gwasanaethu a thystio'n uchel am nerth a dylanwad cymeriad yr ymadawedig. Yr oedd yr eglwys, cymdeithasau a chyfeillion wedi anfon nifer mawr o bleth-dorchau a blodau amryliw i ddangos eu parch iddi ar ddydd ei hangladd y nifer mwyaf welsom erioed.
Rhoddwyd ei gweddillion i orphwvs wrth ochr ei phriod yn mynwent Poultney, Mr. Morris yn gwasanaethu. a chor Cymreig dan arweiniad W. W. Edwards yn canu yn doddedig. Yr oedd llu mawr o'r ardaloedd cylchynol wedi dod i dalu y gymwynas olaf i un oedd yn hoff ganddynt.
Robert W. Roberts.