MARGARET MORRIS EVANS. ARVONIA, BUCKINGHAM COUNTY, VIRGINIA.

Gyda gofid dwys yr hysbyswn am farwolaeth Mrs. Edward Evans, South Bangor, yn ei chartref glan a chlyd, dydd Llun, Hydref 21ain, ar ol cystudd caled am tua tri mis o amser, a'r dydd canlynol daearwyd ei gweddillion yn mynwent y lle, y Parch. McMiller, ei gweinidog, yn gweinyddu yn yr angladd, y bedd wedi ei orchuddio a blodau hardd yn arwydd o barch i Mrs. Evans, yr hyn oedd yn ei haeddu. Yr oedd yn un o'r merched glanaf a welais erioed; cadw ty glan a chyffyrddus oedd un o'i phrif bleserau, ac yr oedd iddi galon lan. Yr oedd ganddi air da i bawb bob amser.

Genedigol oedd ein gwrthrych o Corris, Gogledd Cymru, a daeth ei rhieni i'r wlad hon yn y flwvddyn 1843, pan nad oedd hi ond chwe mis oed, gan ymsefydlu yn Lancaster Coumty, Pennsylvania. Enwau ei rhieni oedd William T. Morris a Margaret Morris.

Ar ol cyfnod o amser, symudasant i Albemarle County, Virginia, ac yno yr oedd ei thad yn gweithio yn y chwarel, a chyfarfyddodd a damwain trwy i dwll danio arno ef a'i fab, Tom Morris, a David O. Williams, South Delton, Pennsylvania. Bu y ddamwain yn angeuol i'w thad, a chollodd Tom, ei brawd, ei ohwg y gweddill o'i oes, ond trwy drugaredd mendiodd David O. Williams i allu enill ei fywoliaeth. Bum yn cyd-weithio ag ef wyth mlynedd-ar-hugain yn ol i J. W. Jones, yn chwarel Hickory Hill, Maryland.

Tua'r fiwyddyn 1867, ymbriododd ein gwrthrych ag Edward Evans. Caedu, Ffestiniog, Gogledd Cymru, yr hwn oedd wedi ei rhagflaenu tua dwy flynedd-ar-bymtheg yn ol. Yr oedd efe yn hen dderbyniwr cyson o'r "Drych." Yn y flwyddyn 1869, sefydlasant yma, a ganwyd iddynt naw o blant, pump o honynt yn fyw, sef Miss Jane Evans, Murray Hotel New York; Mrs. James Thomas, Fourth Lake, New York; Robert, Wil a Richard. Yr oedd y bechgyn yn gweithio oddicartref, ond pan ddeallasant am waeladd eu mam, daethant adref, a gwnaethant eu rhan yn deilwng o blant, a'r ddwy ferch yr un modd. Yn nghyd a'i phlant, y mae tair o'i chwiorydd yn fyw, sef Miss Mary Morris (wedi cydfyw a Mrs. Evans er's blynyddau), a dywedodd Mrs. Evans wrth ei chwaer, Miss Mary, ddiwrnod cyn ei marwolaeth ei bod wedi cael ymgeledd gymwys ganddynt; hefyd Mrs. Charles, Warren, New Jersey, a Mrs. Elizabeth Osborne, New York.

Heddwch i'w llwch. Dymunir ar i un o bapyrau Cymru godi yr uchod.
J. C. W.

Y Drych ~ Rhagfyr 26ain, 1918.