MARY NICHOLAS. DELTA, YORK COUNTY, PENNSYLVANIA.
Foreu dydd Gwener, Mehefin, 14eg, bu farw yr hen chwaer, Mrs. Mary Nicholas Jones o'r lle hwn yn 76 mlwydd oed, a'r Sabboth canlynol rhoddwyd yr hyn oedd farwol o honi i orwedd wrth ochr ei phriod yn mynwent Slateville.Gwasanaethwyd yn ei hangladd gan y Parch. W. D. Thomas (M. C.) yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. B. W. Jones, gweinidog y Presbyteriaid. Ganwyd Mrs. Jones yn Caerllwyngrydd, Bethesda, Arfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1842. Merch ydoedd i John a Nancy Nicholas, a daethant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1852 pan oedd ein gwrthrych ond 10 mlwydd oed.
Yn y flwyddyn 1861 ymbriododd a Daniel W. Jones, a ganwyd iddynt naw o blant, saith o feibion a dwy ferch. Bu un o'r merched farw rai blynyddau yn ol, ond y mae y gweddill yn aros.
Bu Mrs. Jones yn aelod ffyddlawn gyda'r Annibynwyr am dros 40 mlynedd hyd nes i'r enwad ymuno gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a bwriodd Mrs. Jones fel lluaws o rai eraill ei choelbren gyda'r Hen Gorff, er iddi gael ei hamddifadu o foddion cyhoeddus yr eglwys er's rhai blynyddau oherwydd henaint a llesgedd.
Deallwn i'r hen chwaer flynyddau yn ol fod yn aelod o gor y gwr enwog William Morris y canwr; a dywedir ei bod yn feddianol ar lais neillduol o swynol, ac y mae yn ddiameu fod ei llais heddyw mor swynol ag erioed mewn gwlad lle na ddaw henaint na nychdod, tristwch na galar i anmharu dim ar ei llais i bob tragwyddoldeb,
"Canai yn myd y cwynion - fawl Iesu
Felusaf Ei swynion."
ac os gallodd wneyd hyny yn y fuchedd hon, pan ond ei weled a llygad ffydd, pa faint mwy gogoneddus heddyw pan yn ei weled Ef "megys ag y mae"?
Gan E. L.