MARY J. DAVIES OWEN. CHICAGO, COOK COUNTY, ILLINOIS.

Chwefror 17eg, 1918, yn ei chartref, 2911 Jackson Boulevard, Chicago, bu farw y wraig rinwediol a'r Cristion didwyll, Mrs. Owen, priod Mr. Hugh W. Owen, un o ddiaconiaid ffyddlon eglwys Hebron.

Ganwyd Mrs. Mary Owen yn Nghaernarfon, Gogledd Cymru, Ionawr 10fed, 1845. Merch ydoedd i Capt. Owen W. a Gwen Davies. Ymfudodd gyda'i rhieni a phedwar o blant ieuengach i'r America, gan gyraedd Racine, Wisconsin, Gorphenaf. 4ydd, 1853, ac yno y cartrefodd y teulu. Yn y flwyddyn 1862, pan yn 17 oed, symudodd Mary i ddinas gynyddol Chicago i enill ei bywiolaeth.

Ebrill 28ain, 1875, ymbriododd a Mr. Hugh W. Owen. Cymerodd y briodas le yn anedd Rowland Williams, Lake Emily, Wisconsin. Aethant i fyw i Randolph, Wisconsin, ac yno y buont yn preswylio am 13 blynedd, pryd y symudasant i Chicago yn 1888, ac yno y treuliasant eu bywyd hyd yn awr.

Ganwyd iddynt dri o blant, sef Winifred, William a Beulah, y tri yn bresenol gyda'r tad yn yr angladd. Enwau y plant erbyn hyn yw Mrs. John O. Evans, Jamestown, Colorado; Mr. William O. Owen, Oak Park, Illinois; a Mrs. Daniel Price Jones, Chicago. Goroeswyd hi hefyd gan ddwy chwaer a dau frawd, Mrs. Dorothy Williams a Miss Winnie Davies, Racine; Mr. Owen W. Davies, Chicago, a Mr. William R. Davies, Sioux City, Iowa; hefyd gan bedwar o wyrion, sef Dorothy, Ruth, William A., Jr. a Robert Owen.

Bu farw am 8 o'r gloch ar foreu Sabboth. Tra gweddus oedd yr awr a'r dydd iddi hi, canys yr oedd ysgafnder goleu y boreu yn nodweddiadol o'i thymeredd, a santeiddrwydd y Sabboth yn cydgordio a'i chymeriad g!oyw. Wele. Israeliaid yn wir, yn yr hon nid oedd dwyll. Gweddiai pan yn ieuanc, ac yr oedd delw gweddi yn harddu ei gwedd ac enaint Ei bywyd yn perarogli ei choffadwriaeth.

'Pernicious anemia.' oedd enw ei hafiechyd. Yn mis Mai. 1917. cafodd drawsliflad gwaed o wythienau ei merch, Mrs. Evans. Estynodd hyn ei hoes lawer o fisoedd. Gwyddai nas gallai fyw ond am ychydig, ond hyfryd a melus oedd ei chyfeillach drwy fisoedd ei chystudd. 'Ni frysia yr hwn a gredo.' Credai yn gryf y deuai maes o law. 'Yn iach i'r lan yr ochr draw.' Hydref 1917, bu mewn pedwar o gyfarfodydd Cymanfa Ymdrechol Racine. Ar ol dychwelyd i Chicago ymwelodd a chyfarfod Cymdeithas Chwiorydd Hebron, a dyna yr olaf. Ei hoff emynau oedd:

'Dysgwyl 'rwyf ar hyd yr hirnos.'
'Just as I am, without one plea.'
'O Dduw, rho i'm dy hedd.'

a'r adnodau Matt. 24:44, a 'Bydd ffyddlon hyd angau.'

Yr oedd yn wraig gall, amyneddgar, siriol a charedig, a hoffid hi gan bobl ieuainc. Cafodd ei phriod gydmar gwerthfawr, a'r plant fam ardderchog, ac eglwys Dduw aelod a cholofn diwyro. Yr oedd trefniaoau ei hangladd wedi eu gwneyd ganddi hi lawer o wythnosau cyn marw. Cafodd angladd anrhydeddus. Yn Hebron, canwyd ei dewis emynau. 'O fryniau Caersalem.' 'Trig gyda mi.' a 'Hydd myrdd o ryfeddodau,' a gweinyddwyd gan y Parchn. S. E. Prytherch. J. E. Jones a John C. Jones. Aed o Chicago i Racine i gladdu. ac yn nghapel mvnwent Racine gweinyddwyd gan y Parchn. John Davies, a Dr. Joseoh Roberts, a'r ysgrifenyld, a chafwyd gan Mrs. Lena Jones ddan unawd. Nawdd y nef fo dros y priod a'r plant yn eu galar hiraethus.
J. C. J.

Y Drych ~ Mawrth 14eg 1918.