OWEN PARRY OWEN. HILLSIDE, COOK COUNTY, ILLINOIS.
Hunodd y brawd anwyl uchod yn yr angeu dydd Iau, Mai 9fed, yn y Sanitarium, perthynol i'r ddinas hon. Er y gwyddem nad oedd gobaith iddo am adferiad iechyd, eto daeth ei ymddatodiad yn sydyn ac annysgwyliadwy.Daearwyd yr hyn oedd farwol o hono dydd Llun canlynol yn mynwent Oakridge, o 1609 South 3rd Avenue, Maywood, lle yr oedd ei briod yn aros. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan Dr. Barton First Congregational Church, Oak Park. Canwyd tair o unawdau amserol i'r amgylchiad pruddaidd yn effeithiol gan Mr. John Williams, 1343 West Adams Street, Chicago. Er mai yn yr iaith Seisneg oedd y gwasanaeth, fe ganwyd dau emyn Gymraeg ar lan y bedd.
Mab ydoedd i'r diweddar William ac Ann Owen, Clark Street. Caernarfon, Gogledd Cymru. Ganwyd ef yn y dref hono. Ymbriododd a Miss Elizabeth C. Hills. 19 mlynedd yn ol, ac yr oedd y ddau yn aelodau cyflawn o eglwys Siloh. Caernarfon tra yno. Daeth i'r wlad hon dair blynedd a haner yn ol, wedi byw chwe mlynedd yn Ne Affrica cyn hyny.
Gadawodd i alaru ar ei ol ei anwyl briod, dau frawd, sef Harry a Thomas Owen. 4 Market Street, Caernarfon. a dwy chwaer; Mrs. Tomkinson. Market Street, Caernarfon, a Mrs. John Williams, Saron, Llanwnda.
Nawdd y nef fyddo dros ei deulu yn eu profedigaeth lem.
William Ishmael Jones.